• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Paralympaidd

Cadw allan, cadw'n ddiogel

Gweithio ar y Parc Olympaidd

Oeddech chi'n gwybod? Bydd y Parc Olympaidd yn Nwyrain Llundain yr un maint â 357 o gaeau pêl-droed ar ôl iddo gael ei orffen!

Adeiladu, iechyd a diogelwch - dysgu i fod yn ddiogel

Mae'r Olympic Delivery Authority (ODA), sy'n gyfrifol am adeiladu'r Parc Olympaidd, wedi ymrwymo'u hunain i'w wneud yn lle diogel i weithio ynddo, a'r ardaloedd o'i gwmpas yn lle diogel i fyw ynddo.

I helpu plant a phobl ifanc ddeall sut i fod yn ddiogel wrth fyw, chwarae neu weithio yn agos i safle adeiladu, maent wedi creu menter addysg o'r enw 'Diogel'.

Yn wreiddiol, roedd 'Diogel' yn berfformiad theatr adrodd stori rhyngweithiol a ymelodd â 75 o'r ysgolion sydd agosaf i'r Parc Olympaidd. Ond nid pobl Dwyrain Llundain yn unig sy'n byw ger safle adeiladu, ac roedd yr ODA eisiau defnyddio grym y Gemau i helpu pobl ifanc eraill i ddeall sut i fod yn ddiogel hefyd. Felly gallwch nawr lawrlwytho set o adnoddau sy'n defnyddio'r Parc Olympaidd i ddangos sut i fod yn ddiogel ger safle adeiladu.

Yr adnoddau

Lawrlwytho nodiadau arweiniad i athrawon a ffilm tair rhan fydd yn eich galluogi i gynnal gweithgaredd sydd wedi ei gynllunio i archwilio i ac ymholi am gadw'ch hun yn ddiogel, gwneud dewisiadau, cyfrifoldeb personol, cyfeillgarwch a dylanwad cyfoedion.

Lawrlwytho nodiadau arweiniad i athrawon:
Cadw allan, cadw'n ddiogel - nodiadau arweiniad i athrawon - 103.34kb

Lawrlwytho'r ffilm tair rhan:
Fersiwn Windows Media Player (mawr)

Windows Media Player (bach)

Fersiwn Quicktime (mawr)

Fersiwn Quicktime (bach)

Gwylio'r ffilm tair rhan