• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Olympaidd

Y Parc Olympaidd

Argraff arlunydd o'r Parc Olympaidd yn ystod y Gemau

Bydd Gemau Llundain 2012 yn dod â llawer o bobl at ei gilydd yn y dathliad mwyaf erioed yn y DU.

Prif ganolfan llawer o'r gweithgareddau, megis y Seremonïau Agor a Chloi a llawer o'r cystadleuthau, fydd y Parc Olympaidd.

Y Parc Olympaidd

Mae'r Parc Olympaidd ar 500 o aceri yn nwyrain Llundain - mae hynny tua'r un maint ag Alton Towers!

Yn ystod y Gemau, saith munud yn unig fydd hi'n gymryd i gyrraedd yno o ganol Llundain ar drên arbennig. Bydd y Parc Olympaidd yn cynnwys y prif Stadiwm, y Ganolfan Chwaraeon Dŵr, a stadiymau llai fel y Ganolfan Hoci a'r Feloparc ar gyfer Seiclo. Bydd Pentref yr Athletwyr, lle bydd yr athletwyr yn aros yn ystod y Gemau, hefyd yn rhan o'r Parc.

Bydd y Parc i gyd yn cael ei gynllunio i sicrhau y bydd ymwelwyr bob amser yn teimlo'n rhan o'r Gemau, p'un ai eu bod yn gwylio'r cystadlaethau chwaraeon, yn cerdded ar lan yr afon neu'n eistedd o flaen un o'r sgriniau mawr yn gwylio cystadlaethau.

Argraff arlunydd o'r Pentref Olympaidd

Lawrlwythwch fap o'r Parc Olympaidd.
Map o'r Parc Olympaidd (339.40 kb)

Ymweld â'r Parc Olympaidd

Mae'r Parc Olympaidd ei hun yn creu argraff ddramatig, ac mae wedi ei amgylchynu ag amgylchedd dinesig rhyfeddol. Mae'r tirwedd yn darparu cyfleon gwych i archwilio a dysgu yn ystod eich ymweliad.
Efallai eich bod yn dod i Lundain am daith swyddogol o gwmpas y Parc Olympaidd ac eisiau gwneud diwrnod ohoni, neu efallai eich bod ond yn chwilio am ffordd wych o dreulio diwrnod yn dysgu mwy am Gemau Llundain 2012, y lleoliadau, a dwyrain Llundain. Beth bynnag, dyma rai gweithgareddau i'ch cadw'n brysur!

Bydd Barod i wneud diwrnod ohoni! - 1613.96kb

Gwneud y Parc Olympaidd yn hawdd i'w ddefnyddio i bawb

Mae'r DU yn ymfalchïo ei bod yn wlad gynhwysol - mae hynny'n golygu rhoi'r un cyfle i bawb a rhoi iddynt yr un mynediad i bopeth. Un o'r pethau pwysicaf i drefnwyr Gemau Llundain 2012 yw sicrhau y bydd pawb yn gallu defnyddio'r holl gyfleusterau. Mae'r adeiladau newydd wedi cael eu cynllunio i alluogi'r athletwyr a'r ymwelwyr i gyd gymryd rhan a theithio'n hawdd.

Teithio i'r Parc Olympaidd

Bydd 10 rheilffordd yn cyrraedd y Parc Olympaidd a fydd ar gael i deithwyr gyrraedd a gadael y Gemau. Bydd gwaith hefyd yn cael ei wneud i wella'r system danddaearol a'r ffyrdd. Bydd pob dull o drafnidiaeth gyhoeddus am ddim i bobl fydd â thocynnau i weld y Gemau.

A red double decker bus in London

Y Parc Olympaidd ar ôl y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd

Ar ôl y Gemau, bydd y Parc Olympaidd yn cael ei droi'n barc dinesig. Bydd y dŵr a'r camlesi o'i amgylch yn cael eu glanhau a'u lledu fel y bydd digon o le i fywyd gwyllt. Bydd yna hefyd lwybrau cerdded a llwybrau seiclo.

Bydd yr adeiladau i gyd yn cael eu newid fel y gallant gael eu defnyddio gan bobl i fyw ynddynt, neu fel mannau i ymarfer a chwarae campau ynddynt.

Lawrlwythwch y dudalen hon fel taflen ffeithiau.
What's planned for London 2012 - 1120.54kb