Darllenwch y trawsgrifiad o'r fideo am ddau aelod ifanc o'r staff sy'n gweithio ar Bwyllgor Trefnu Llundain 2012.
Natalie: Natalie Moore ydw i, rwy'n 18 oed, ac ar hyn o bryd fi ydi'r Cynorthwyydd Tîm mewn Addysg.
Nathan: Fy enw i yw Nathan Spencer. Rwy'n 20 oed ac rwy'n Rheolwr Prosiect Lleoliad dan Hyfforddiant.
Natalie: Roeddwn yn y chweched dosbarth ac yn darllen y papur newydd lleol a sylwais ar hysbyseb bychan ar gyfer Rhaglen Bloc Cychwyn gan Llundain 2012 a meddyliais, 'O, beth ydi hwn?' Ac meddai Mam, 'Cer amdani, cer amdani,' a dywedais, 'Chaf i byth mohoni, chaf i byth mohoni'. Ond fe wnes gais ar y Rhyngrwyd ac ychydig wythnosau'n ddiweddarach cefais alwad ffôn yn gofyn, 'Allwch chi ddod draw i'r swyddfeydd?'
Yn llawn ofn, erioed wedi bod yn Canary Wharf, dim syniad beth i'w wisgo, yn pánicio - a chyrhaeddais yma ac mewn gwirionedd bu'n ddiwrnod da dros ben, rhyw fath o ddiwrnod meithrin tîm. Daethom i adnabod ein gilydd, cael cyfweliad ffurfiol yn ogystal, a oedd erbyn hynny'n bur hamddenol.
Er i mi gael hwyl arni teimlwn wrth fynd adref fod yna lwythi o bobl yma, ac felly na chawn y swydd.
Yna, rai wythnosau'n ddiweddarach, cefais alwad ffôn, 'A ellwch chi ddod yma am ail gyfweliad?' Yn f'ôl y dois ac mae'n amlwg i bethau fynd yn ardderchog, ac ymhen ychydig o wythnosau cefais yr alwad yn dweud fy mod wedi cael y swydd, a dechreuais arni ym mis Medi.
Mae'n gyfle gwirioneddol ryfeddol. Mae pawb yn dweud yr ystrydeb 'mae'n gyfle unwaith-mewn-oes', neu'n 'gyfle unwaith-mewn-cenhedlaeth', ond mae hyn yn hollol wir gan mai yn Llundain y cynhelir y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd.
Rwy'n dod o Ddwyrain Llundain a hwythau yn Stratford dim ond rownd y gornel. Mae mewn gwirionedd yn gyfle efallai, y caf efallai ei weld rywdro eto, ond ni chaf byth y cyfle i weithio a finnau mor ifanc a chael y fath gyfle.
Rydych yn cyrraedd y swyddfa ac mae yna rywbeth newydd i'w ddysgu bob dydd neu rhyw wybodaeth newydd am yr hyn sy'n digwydd, ac mae mor gyffrous cael teimlo'n rhan o'r cyfan yn enwedig gan ei fod mor agos i'm cartref. Felly, i mi, caf deimlad real ei fod erbyn hyn yn rhan ohonof.
Nathan: Dangosodd adrannau'r cwmni i ni beth a wnant a sut y maent yn rhan o drefniant y cwmni mewn materion gweithredol. Bu'n rhaid i ni benderfynu lle fyddai'n dewis cyntaf, ail a thrydydd o ran lle am fynd am leoliad tri mis.
Rwy'n awr wedi symud i'r adran Lleoliadau lle treuliais dri mis yn gweithio gyda rheolwyr prosiect a chynllunwyr troshaenau a chymerais fy rôl barhaol yma fel Rheolwr Prosiect Lleoliad dan Hyfforddiant.
Dof i mewn yn y bore a mewngofnodi ar fy nghyfrifiadur. Mae gennym yr hyn a elwir yn Anghenion Lleoliad LOCOG. Manylion ydyn nhw am yr ystafelloedd gwahanol y tu mewn i'r lleoliadau gwahanol a'r lleoliadau cystadlu.
Mae gan y Stadiwm Olympaidd tua 3,000 o ystafelloedd mewn un adran a rhaid cadw cyfrif manwl am bob ystafell o ran maint, lled, dyfnder, beth yn union sydd yn yr ystafell, faint o bobl y gellir eu cynnwys ynddi. Rhaid rhoi cyfrif am y math yma o bethau.
Rhoddwyd i mi gyfle na roddir i rai pobl mewn oes: felly rhaid cymryd y cyfle a pheidio â'i wastraffu.
Natalie: Rwy'n dechrau gweithio am 9, yn dod i'r swyddfa, troi fy nghyfrifiadur ymlaen, edrych ar fy e-bostiau yn beth cyntaf a gweld beth fydd raid i mi ei wneud yn ystod y dydd. Mae gennyf restr o bethau i'w gwneud, caf olwg arni, gweld beth sydd bwysicaf a beth sy'n lleiaf pwysig, ac yna dechrau gweithio.
Y pethau a wnaf fel rheol yw gweithio ar stwff gweinyddol cyffredinol, llogi ystafelloedd i bobl, gofalu bod gan y gwesteion ganiatâd i ymweld, a lle i barcio, ac yna i ddilyn, gweinyddu cyffredinol. Os yw pobl yn gofyn i mi wneud rhywbeth iddynt, fe'i gwnaf, ac edrych ar ôl y tîm.
Ers i mi fod yma mae'n debyg i mi ddysgu pa mor bwysig a pha mor gaeth i amser ydi'r swydd - mae pawb ar ruthr, dim amser i oedi - a pha mor bwysig ydi hi i weithio gyda'n gilydd fel tîm.
O wybod hyn rwy'n rhywun pur bwysig yn y tîm oherwydd fy mod yn gwneud llawer o waith gweinyddol i bawb, a hoffaf feddwl weithiau na fyddent hwy'n gallu ymdopi pe na bawn i yno!
Felly mae'n hollbwysig fod pawb yn teimlo'i fod yn perthyn, a gallaf eistedd fan hyn gyda gweddill y tîm yn chwerthin a chellwair a pharhau i weithio, a pheidio â theimlo fel yr un ifanc y mae pawb yn edrych arni gan ofyn, 'Beth mae hon yn ei wneud yma?'
Teimlaf yn rhan o'r tîm a does mo'r ots pa mor hen neu pa mor ifanc ydych chi. Rwy'n credu bod pawb yn cydweithio mor dda nes eich bod bob amser yn teimlo'n rhan o'r tîm y gweithiwch ynddo.
Nathan Ymunais fel un o'r deg oedd yn gadael ysgol, felly ni yw'r rhai ieuengaf yn y cwmni, ond rydym oll wedi ffitio'n dda i'n hadrannau a'n safleoedd gweithredol.
Rydym yn gweithio gyda rhai o'r bobl orau yn y byd, neu_y_bobl orau yn y byd ar y prosiect mwyaf yn y byd. Mae'r bobl rwy'n cydweithio â hwy y bobl mwyaf proffesiynol a phrofiadol yn eu maes, ac mae'n wych cael gweithio gyda nhw a bod yn rhan o'r cyfan.
Natalie: Un person a'm hysbrydolodd fwyaf yn yr ysgol oedd fy Nghydlynydd Chwaraeon Ysgol. Fe'm cyflwynodd i fyd hyfforddi a bod ynglŷn â hynny, a dysgu eraill am yr hyn yr wyf yn ei fwynhau mewn chwaraeon, ac fe roddodd hi'r brwdfrydedd hwnnw mewn chwaraeon oedd ar goll ynof, a bu iddi fagu llawer o hyder ynof. Felly, rwy'n teimlo iddi helpu llawer arnaf i gael fy swydd ac fe roddodd i mi yr holl hyder angenrheidiol i fod yn y fan rwyf ynddi heddiw. Wedi 2012 efallai y penderfynaf fynd i'r brifysgol a mwy na thebyg mynd ymlaen i gael fy hyfforddi i fod yn athrawes AG.
Nathan: Yn fy mywyd i fy mam fu'r dylanwad pennaf. Yn wir, mae'n Brif Athrawes yn Newham, Dwyrain Llundain. Ei hegni, a'r modd y cyraeddasom lle rydym yn awr - lle mae hi yn awr - sy'n cadw'r awydd ynof i sicrhau fy mod yn gwneud fy ngorau a chanolbwyntio drwy'r amser, ac yn sicrhau bod gennyf nodau pendant a'm bod yn eu cyflawni.
Gweithio fel Rheolwr Prosiect - rwy'n gobeithio hyrwyddo fy ngyrfa i'r cyfeiriad yma, efallai gweithio ar brosiectau eraill a hyd yn oed mewn Gemau eraill. Oherwydd unwaith y byddwch wedi gweithio mewn un Gemau bydd gennych ddigon o brofiad i symud i un arall, ond gallwch bob amser reoli unrhyw brosiect. Mae'r byd cyfan yn ymagor o'm blaen. Mewn gwirionedd, gallaf wneud unrhyw beth.













