Gwyliwch y trawsgrifiad o'r fideo am bobl yn gweithio ar y Parc Olympaidd.
Cyrill: Fy enw yw Cyrill Doughin. Rwy'n gweithio i Marshall Construction fel gweithiwr tir. Bûm yn y byd adeiladwaith o'r blaen, felly wedi gwneud blwyddyn o hyfforddiant, blwyddyn ar ôl iddi fod yn amser y Gemau Olympaidd.
Rwy'n dechrau gweithio am 7.30, a'r peth cyntaf a wnaf ydi gofalu bod fy PPE yn iawn, fy menig, fy esgidiau, sbectol haul, het. Yna cysylltaf â'm partner, y fan arall, i fynd o amgylch y safle a chyflawni ein dyletswyddau.
Shelly: Fy rôl o fewn Digger School yw gweinyddu a chefnogi craidd. Rwy'n gweithio mewn amgylchfyd swyddfa ond caf gyfle i ddod allan yma a defnyddio'r peiriannau yr hyfforddwyd fi i'w trin.
Cynigiwn gwrs sylfaen, sy'n golygu y bydd yn rhaid i chi gael NVQ er mwyn cael eich cerdyn glas CPCS. Pan ddowch trwy Digger School rydych ar gerdyn coch. Rhaid i chi gael 300 o oriau gwaith i gael eich cerdyn glas, fydd yn rhoi'r hawl i chi gael NVQ.
Ar ddiwrnod cyffredin mae'n amlwg y byddwn yn cyfarfod y cynrychiolwyr ddaw drwodd yn wythnosol. Rydym yn cael eu PPE yn barod. Ânt i'r ystafell ddosbarth, cwblhânt fodiwlau un a dau, sef y rhai iechyd a diogelwch. Yna deuant allan a dechrau ar eu hyfforddiant.
Cyrill: Rwy'n gwneud llawer o bethau mewn llawer o leoedd. Yr wythnos hon gall fod yn reolaeth trafnidiaeth, yfory gall fod yn fancio, a'r dydd canlynol yn waith tir. Yr wythnos ddilynol gallwch fod yn gwneud gwaith gro. Rwy'n ei fwynhau.
Shelly: Teimlaf weithiau fod gennyf fwy i'w brofi oherwydd ei fod yn amgylchfyd llawn dynion, ond mae'n dda ar gyfer y genethod. Y rhan galetaf o'r gwaith mewn gwirionedd ydi dod allan yma a defnyddio'r peiriannau yn ddyddiol. Ond yna, rwy'n dweud ei fod yn galed: dydi o ddim yn galed oherwydd wedi dysgu unwaith sut i'w yrru, fe ddaw yn y man yn ail natur i chi. Mae'n deimlad rhyfeddol dros ben oherwydd eich bod yn teimlo eich bod yn chwarae rhan mewn creu hanes.
Cyrill: Roeddwn yma o'r dechrau, o'r dechrau cyntaf un, felly rwy'n awyddus i fod yma tan y diwedd. Mae gennyf wraig a phlant, a gallaf bob amser eistedd gan wybod fy mod wedi bod yn rhan o hanes y Gemau Olympaidd.













