Mae'r Gemau Olympaidd wedi darparu 420 prentisiaeth mewn amrywiaeth eang o feysydd megis trydanwyr diwydiannol a syrfewyr ansawdd
Cwestiwn: beth sy'n gyffredin i'r holl swyddi hyn?
....trydanwyr diwydiannol a phlymwyr, gweithredwyr cyffredinol/gweithwyr tir, llafurwyr tirlunio, gosodwyr pibellau, gweithwyr peiriannau, weldwyr, peirianwyr sifil, hyfforddedigion graddedig, syrfewyr ansawdd, gweinyddu, arlwyo a glanhau, cofnodi data, rheolwyr dogfennau, swyddogion ariannol a diogelwch....
Ateb: roedd yr holl swyddi hyn yn hanfodol i adeiladu'r Parc Olympaidd.
Mae angen sgiliau arbennig mewn llawer o'r swyddi hyn ac mae'r Olympic Delivery Authority (ODA) wedi creu mwy na 420 prentisiaeth ar y Parc Olympaidd yn ystod y cyfnod adeiladu.
Gweithiodd yr ODA yn glos â chontractwyr y Parc i ymorol fod pob prentis wedi partneru â gweithiwr profiadol er mwyn rhoi iddynt y cyfle gorau i ddysgu sgiliau penodol i'r swydd ac y gallent gwblhau cymhwyster galwedigaethol.
Y math iawn o gefnogaeth
Roedd y Parc Olympaidd yn safle adeiladu enfawr a phrysur a rhoddwyd cefnogaeth ychwanegol i'r gweithwyr newydd yn y Both Prentisiaeth Swyddfa oedd hon oedd yn darparu man egwyl i'r prentisiaid gyfarfod, astudio, ceisio cyngor neu i loetran yn unig. Fe'i dodrefnwyd â chyfleusterau TG, ystafelloedd cyfarfod, ac ystafelloedd dosbarth.
Rhoi Sylw i Brentisiaethau
Hyrwyddodd yr ODA ddigwyddiad Llwyfan Sgiliau Adeiladu Olympaidd ddwywaith y flwyddyn yn ystod y paratoadau ar gyfer Gemau Llundain 2012. Tynnodd hyn sylw at bwysigrwydd hyfforddiant galwedigaethol a thalentau'r myfyrwyr a hyfforddid mewn disgyblaethau adeiladau a pheirianwaith.
Merched mewn adeiladu
Anelai'r prosiect Merched mewn Adeiladu at ddileu'r rhwystrau neilltuol sy'n rhwystro merched rhag dod i'r diwydiant adeiladu a bod yn gymorth i greu gweithlu â mwy o gydbwysedd rhyw yn perthyn iddo. Recriwtiodd ferched sydd â diddordeb mewn gweithio yn y diwydiant a chynnig cefnogaeth a hyfforddiant.
Cymerwch gip ar yr adran cylchlythyrau cyflogaeth a sgiliau i ganfod y ffeithau a'r ffigurau diweddaraf
Gwyliwch y fideos hyn i ganfod rhagor:
Y prentis trydanydd Nicola Hayes yn sôn am weithio ym Mhentref yr Athletwyr













