• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Olympaidd

Newyddion

Siop newydd TeamGB a ParalympicsGB yn agor yn Westfield Stratford City
27 Med 2011

Heddiw agorodd Pwyllgor Trefnu Llundain 2012 (LOCOG) ddrysau siop unigryw TeamGB a ParalympicsGB o’r enw ‘Our Greatest Team’ yn Westfield Stratford City a agorwyd yn ddiweddar.

Roedd enillydd tair medal Aur Olympaidd am seiclo Bradley Wiggins, Sophia Warner sy’n anelu am fedal yng Ngemau Paralympaidd Llundain 2012 a myfyrwyr o Kaizen Primary School, aelod o rwydwaith Bydd Barod, yno i helpu i agor y siop newydd.

Y flwyddyn nesaf bydd timau TeamGB a ParalympicsGB y mwyaf erioed i gynrychioli Prydain Fawr mewn unrhyw ddigwyddiad chwaraeon am dros 100 mlynedd – a dyma’r tro cyntaf yn hanes y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd y bydd y wlad gynnal yn gallu cefnogi eu tîm gydag ystod mor enfawr o ddeunydd marchnata.

Bydd y siop adwerthu unigryw 2000tr sg, sydd ar stepen drws y Parc Olympaidd, yn garfref i dros 1,500 o gynhyrchion erbyn amser y Gemau – fydd yn cynnig digon o gyfle i gefnogwyr ddangos eu cefnogaeth i’w gwlad eu hunain.

Mae’r cynhyrchion yn cynnwys crysau-t, crysau chwys, clustogau, cynfasau gwely, llyfrau lliwio i balnt, gemwaith i’w casglu, bagiau a hyd yn oed sgwteri a beics.

Cafodd y 9 disgybl o Kaizen Primary School gyfle i chwarae gyda set Scalextric Felodrom gyda Bradley a darllen un o flwyddlyfrau Llundain 2012 gyda Sophia. Yna siaradodd y myfyrwyr gyda Sophia ynglŷn ag ymarfer ar gyfer Gemau Paralympaidd Llundain 2012 a chael hyd yn oed cyfarfod â Wenlock a Mandeville, masgotiaid Llundain 2012, cyn derbyn bagiau nwyddau egsglwsif TeamGB a ParalympicsGB!

Dywedodd Andy Hunt, Chef de Mission TeamGB: ‘Yn ystod digwyddiadau profi chwaraeon yr haf hwn fe welsom yr effaith bositif fawr y gall cefnogaeth angerddol torf gartref frwdfrydig ei gael ar berfformiadau athletwyr Prydain. Byddai’n wych iddynt fynd i mewn i leoliad Llundain 2012 i ganfod môr o goch, gwyn a glas o gefnogaeth i TeamGB y flwyddyn nesaf.

‘Nid oes yr un gystadleuaeth chwaraeon arall pan fo Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon yn defnyddio tîm mor fawr, amrywiol a thalentog i gynrychioli’n gwledydd. Gyda chefnogaeth lwyr y DU y tu ôl iddynt yn Llundain 2012, bydd TeamGB a Paralympics GB – Ein Tîm Gorau – yn 900 o athletwyr 60 miliwn o gefnogwyr.