• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Olympaidd

Newyddion

Pobl ifanc yn dathlu'r Cymod Olympaidd
21 Med 2011

Mae ‘Bydd Barod am y Cymod Olympaidd’ yn cynnig cyfle i bobl ifanc ddysgu am y Cymod Olympaidd ac i gymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon a diwylliannol sy’n helpu i annog heddwch a chymod yn eu hysgolion a’u cymunedau.

Fel rhan o’r lansiad, gweithiodd myfyrwyr o Swanlea School (aelod o rwydwaith Bydd Barod) gyda’i gilydd i archwilio themâu’r Cymod Olympaidd. Bu iddynt gymryd rhan mewn gweithdy creadigol i ddatblygu syniadau dylunio ar gyfer bathodyn pin Cymod Olympaidd Llundain 2012, a meddyliwyd am syniadau am sut allant hyrwyddo themâu’r Cymod Olympaidd yn eu hysgol a’r gymuned.

Cychwynodd y Cymod Olympaidd yn yr Hen Gemau Olympaidd pan gyhoeddwyd cymod i helpu athletwyr deithio i ac o’r Gemau yn ddiogel. Ailgyflwynwyd y Cymod Olympaidd i’r Gemau Olympaidd modern ym 1992 gyda’r nod o ddefnyddio chwaraeon i helpu i hyrwyddo heddwch, datrys gwrthdaro ac adeiladu pontydd rhwng cymunedau.

Mae adnoddau ‘Bydd Barod am y Cymod Olympaidd’ yn cynnwys ffilmiau, deunyddiau gwasanaethau a syniadau am weithgaareddau a ddatblygwyd i annog pobl ifanc i drafod themâu’r Cymod Olympaidd ac i hyrwyddo cyfeillgarwch a pharch at bawb drwy chwaraeon neu ddiwylliant yn yr ysgol. O heddiw ymlaen bydd tair adnodd ar gael i bob ysgol a choleg yn y DU trwy Raglen Addysg Swyddogol Llundain 2012, Bydd Barod byd-eang.

Dywedodd enillydd medal Efydd Pencampwriaeth Athletau’r Byd, Andy Turner: ‘Mae’r Gemau Olympaidd a Pharalympaidd yn enghraifft wych o sut all y byd ddod at ei gilydd a chystadlu mewn heddwch. Rwy’n credu bod chwaraeon yn arf rhagorol ar gyfer dod â phobl ifanc ac ei gilydd. Mae’n wych gweld pobl ifanc sy’n byw mor agos i’r Parc Olympaidd ac o gwmpas y DU yn cymryd rhan yn y fenter hon.’

‘Rwyf wrth fy modd yn gweld LOCOG yn cofleidio themâ‘u Cymod Olympaidd mewn chwaraeon, diwylliant ac addysg ac yn darparu cymaint o gyfleoedd i bobl ifanc ac aelodau eraill o’r gymuned i helpu i ledaenu’r gair am y Cymod Olympaidd.’

Yn ddiweddarach heddiw, bydd cyngerdd ‘Peace One Day’, sy’n rhan o Ŵyl Llundain 2012 ac yn cynnwys Razorlight, Eliza Doolittle a ffilmiau byrion a gynhyrchwyd gan bobl ifanc fel rhan o brosiect Film Nation Shorts, yn cael ei gynnal yng Ngogledd Greenwich. Mae myfyrwyr o ysgolion rhwydwaith Bydd Barod wedi cael gwahoddiad i ddod draw i fwynhau’r dathliadau.