• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Olympaidd

Newyddion

Lord Lawson of Beamish school yw ysgol y mis Bydd Barod!
29 Med 2011

Yn ystod blwyddyn academaidd 2010, dechreuodd Lord Lawson of Beamish School gynllunio sut y gallent gyffroi ac ysbrydoli myfyrwyr gan ddefnyddio’r Gemau Olympaidd a Pharalympaidd.

Yn ystod y flwyddyn academaidd mae myfyrwyr wedi cael eu cyflwyno i’r Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd trwy gyfrwng gwasanaethau ac ystod eang o weithgareddau traws gwricwlaidd. Mae myfyrwyr wedi rhoi cynnig ar nifer o chwaraeon Olympaidd yn cynnwys rhwyfo a phêl-foli. Bu i grŵp o fyfyrwyr hyd yn oed ymweld â‘r Parc Olympaidd gan ddysgu am y safle yn ystod gwers Olympaidd ysbrydoledig yn y View Tube.

Gan eu bod yng Ngogledd-Ddwyrain Lloegr, mae Lord Lawson of Beamish School eisiau sicrhau bod pob un o’i myfyrwyr yn teimlo eu bod yn cymryd rhan ac yn teimlo cyffro wrth i’r Gemau agosau.

Cafodd yr ysgol ei dewis fel ‘ysgol y mis rhwydwaith Bydd Barod’ o ganlyniad i’w postiau blog rhagorol oedd yn arddangos eu murlun a ysbrydolwyd gan y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd. Bydd yr ysgol yn derbyn ymweliad gan athletwr fel gwobr am eu hymdrechion a llythyr o longyfarchiadau gan Seb Coe.

Os hoffech fod â gobaith o gael eich dewis fel ‘ysgol y mis Rhwydwaith Bydd Barod’ ond nad ydych eto yn aelod o Rwydwaith Bydd Barod, yna gwnewch gais heddiw a dechrau blogio!

Gwnewch gais nawr!