Bu i Jonathan longyfarch yr ysgol am gael eu dewis fel enillydd cystadleuaeth 'Bydd Barod i ymarfer blasu'.
Jonathan Edwards yn ymweld â Wilson Stuart School yn Birmingham
19 Med 2011
Ymwelodd Jonathan Edwards, Is-Gadeirydd Cenhedloedd a Rhanbarthau Llundain 2012 â Wilson Stuart School yn Birmingham i flasu eu pryd bwyd buddugol oedd yn rhan o gystadleuaeth ‘Bydd Barod i ymarfer blasu’ ac i longyfarch yn bersonol y disgyblion a’r staff fu’n ymwneud â‘r llwyddiant rhyfeddol hwn.
Bu i dri myfyriwr o’r ysgol sy’n rhan o rwydwaith Bydd Barod ddylunio a phartoi pryd bwyd ar gyfer y gystadleuaeth, ac ennill lle ar y rhestr fer allan o 6000 o gynigion. Enillodd eu pryd ‘salad cyw iâr a thatws’ eu categori a bydd yn cael ei weini ym mhentref yr athletwyr y flwyddyn nesaf yn ystod y Gemau. Mae Wilson Stuart School, sy’n gofalu am blant rhwng 2 a 19 oed gydag anableddau corfforol a chyflyrau meddygol cymhleth, yn un o 4 ysgol yn unig o bob rhan o wledydd Prydain i ennill y gystadleuaeth hon ac a fydd yn gallu gweld eu prydau’n cael eu gweini i Usain Bolt ac Ellie Simmonds a’u tebyg yn ystod Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012.
Yn dilyn blasu’r pryd buddugol ymunodd Jonathan â myfyrwyr uwchradd a chweched dosbarth o Wilson Stuart School i siarad am ei lwyddiannau a’i amcanion a dangos ei fedalau Olympaidd i’r myfyrwyr. Yna cafodd Jonathan ei groesholi mewn cyfweliad yn null Parkinson gan rai o ddisgyblion Wilson Stuart oedd yn cynnwys popeth o hyd coesau Jonathan i beth a’i ysbrydolodd i ddewis chwaraeon.
I ddiweddu’r ymweliad ymunodd Jonathan â myfyrwyr o ysgolion partneriaeth Wilson Stuart ynghyd â rhai athletwyr dawnus Wilson Stuart ei hun i ddysgu sgiliau naid driphlyg mewn nifer o orsafoedd athletau dan do.
Dywedodd Jonathan Edwards, Is-Gadeirydd Cenhedloedd a Rhanbarthau Llundain 2012: “Mae ymweld â Wilson Stuart School wedi bod yn wych a chael gweld sut maent wedi bod yn ymwneud â Gemau Llundain 2012. Trwy ennill cystadleuaeth Bydd Barod i Ymarfer Blasu bydd y myfyrwyr yma’n wirioneddol yn cyfrannu – nid yn unig maent wedi dysgu am ffyrdd o fyw’n iach ac egnïol, ond gall y bydd eu prydau’n darparu tanwydd i’r athletwyr fydd yn cystadlu’n y Gemau!
Mae’r gystadleuaeth hon yn dangos nifer o ffyrdd y gall plant a phobl ifanc gymryd rhan ac mae Wilson Stuart School yn enghraifft berffaith o ysgol sydd yn wirioneddol wedi cofleidio’r Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd.”
Dywedodd Steve Hughes, Pennaeth Wilson Stuart School: “Wrth i’r Gemau agosau rydym yn cael ein cyffroi gan y profiadau a’r egni y bydd y digwyddiad unwaith-mewn-oes hwn yn ei gynhyrchu yn yr ysgol. Rydym wedi’n hymrwymo’n llawn i sicrhau bod ein myfyrwyr yn dathlu’r gemau a hefyd yn cydnabod pwysigrwydd Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd. Cawsom fwynhad o gymryd rhan yn y gystadleuaeth ac wrth ein boddau ein bod wedi ennill. Cafodd ein myfyrwyr eu hysbrydoli’n fawr gan gyfarfod â Jonathan Edwards a’u cyffroi gyda’r cyfle i weld Medal Aur Olympaidd.”













