• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Olympaidd

Newyddion

Gemau-Grewyr Ifanc yn dod yn fuan!
8 Med 2011

A oes gan eich tîm chi yr hyn sydd ei angen i gynnal y Gemau?

Rydym yn chwilio am dros 2,000 o Gemau-Grewyr Ifanc i wirfoddoli yn ystod Gemau Llundain 2012. Os hoffai’ch ysgol neu eich coleg chi gymryd rhan yn y sioe fwyaf ar y ddaear yr haf nesaf, parhewch i ddarllen.

Bydd y Gemau-Grewyr Ifanc yn helpu i gynnal y Gemau ac yn ymgymryd â swyddogaethau mewn nifer o dimau LOCOG, o Athletau i Bêl-Foli Eistedd a Chwaraeon Dŵr.

Bydd swyddogaethau yn amrywio o Aelodau Tîm Dosbarthu Gwaith Papur fydd yn gyfrifol am ddosbarthu canlyniadau athletwyr i’r swyddogion cywir o gwmpas y lleoliad, i Aelodau Tîm Citiau Athletwyr, fydd yn cario citiau athletwyr ar y maes cystadlu o flaen torf y wylwyr.

Mae hwn yn gyfle unwaith-mewn-oes i bobl ifanc gymryd rhan yn y Gemau – tra’n dysgu sgiliau newydd, ennill profiad a gwneud ffrindiau newydd.

Rydym eisiau i wirfoddolwyr ifanc gael profiad gwych a chael eu gofalu amdanynt yn dda, felly rydym yn recriwtio ar gyfer timau o Gemau-Grewyr Ifanc, dan arweiniad arweinydd tîm sydd eisoes yn gweithio gyda hwy.

Os oes gennych rôl arweinydd yn eich ysgol neu goleg a byddech yn hoffi cynnig tîm o wirfoddolwyr yna, dewch i ddarganfod mwy .

Bydd ceisiadau’n cael eu derbyn o 22 Medi 2011.