• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Paralympaidd

Newyddion

Gemau-Grewyr Ifanc o Wandsworth a Merton!
7 Med 2011

Mae Pwyllgor Trefnu Llundain 2012 (LOCOG) angen dros 2,000 o bobl ifanc 16-18 oed (Gemau-Grewyr Ifanc) i helpu i gynnal y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd yn ystod haf 2012.

Bydd y Gemau-Grewyr Ifanc yn helpu i gynnal y Gemau ac yn ymgymryd â swyddogaethau mewn nifer o dimau LOCOG, o Athletau i Bêl-Foli Eistedd a Chwaraeon Dŵr.

Bydd swyddogaethau yn amrywio o Aelodau Tîm Dosbarthu Gwaith Papur fydd yn gyfrifol am ddosbarthu canlyniadau athletwyr i’r swyddogion cywir o gwmpas y lleoliad, i Aelodau Tîm Citiau Athletwyr, fydd yn cario citiau athletwyr ar y maes cystadlu o flaen torf y wylwyr.

Mae hwn yn gyfle unwaith-mewn-oes i bobl ifanc gymryd rhan yn y Gemau – tra’n dysgu sgiliau newydd, ennill profiad a gwneud ffrindiau newydd.

Rydym eisiau i wirfoddolwyr ifanc gael profiad gwych a chael eu gofalu amdanynt yn dda, felly rydym yn recriwtio ar gyfer timau o Gemau-Grewyr Ifanc, dan arweiniad arweinydd tîm sydd eisoes yn gweithio gyda hwy.

Os oes gennych rôl arweinydd yn eich ysgol neu goleg a byddech yn hoffi cynnig tîm o wirfoddolwyr, dewch i ddarganfod mwy.

Bydd ceisiadau’n cael eu derbyn o 22 Medi 2011.

Gelwir ar fechgyn a merched casglu peli o Wandsworth a Merton!

Rydym yn recriwtio hyd at 170 o fechgyn a merched casglu peli o Fwrdeistrefi Wandsworth a Merton yn Llundain i wirfoddoli yn ystod y gystadleuaeth Tennis Olympaidd. Mae’r cyfle hwn ar gael yn egsglwsif i ysgolion a cholegau yn eich bwrdeistref. Bydd y gwaith yn golygu casglu peli a rhoi peli i chwaraewyr yn ôl y gofyn yn ystod y gystadleuaeth. Bydd y gwirfoddolwyr hefyd yn gweithredu newid peli yn ystod gemau ac yn gofalu am anghenion y chwaraewyr yn ystod newid ochrau ac egwyl rhwng setiau.

Dylai Gemau-Grewyr Ifanc fod yn gyfeillgar a chymdeithasol gyda sgiliau cyfathrebu da, y gallu i weithio mewn tîm a bod yn gorfforol heini er mwyn cyflawni tasgau’n iawn. Dylai gwirfoddolwyr hefyd fod â diddordeb dwfn ac amlwg mewn chwaraeon.

Mae hwn yn gyfle unwaith-mewn-oes i bobl ifanc gymryd rhan yn y Gemau – tra’n dysgu sgiliau newydd, ennill profiad a gwneud ffrindiau newydd.

Rydym eisiau i wirfoddolwyr ifanc gael profiad gwych a chael eu gofalu amdanynt yn dda, felly rydym yn recriwtio ar gyfer timau o Gemau-Grewyr Ifanc, dan arweiniad arweinydd tîm sydd eisoes yn gweithio gyda hwy.

Os oes gennych rôl arweinydd yn eich ysgol neu goleg a byddech yn hoffi cynnig tîm o wirfoddolwyr ifanc ar gyfer y Gystadleuaeth Tennis Olympaidd, bydd mwy o fanylion am y broses ymgeisio ar gael ar 22 Medi 2012.