• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Olympaidd

Newyddion

Bilborough College yw coleg y mis Bydd Barod!
29 Med 2011

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae Bilborough College wedi cadw at ei addewid ac wedi bod yn hyrwyddo’r Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd yn y coleg a’r gymuned leol.

Mae’r coleg wedi bod yn cynnal nifer o brosiectau cyffrous yn gysylltiedig â‘r Gemau. Roedd diwrnod iechyd ac amrywiaeth yn dathlu diwylliannau o gwmpas y byd. Gwahoddodd y coleg nifer o siaradwyr gwadd i gynnal sesiynau am ddiwylliant Tsieineaidd, ieithoedd a diwylliannau Ewrop ac addysg yn Hong Kong, Tsieina ac Affrica. Roedd yna hefyd sesiynau’n dysgu Dawnsio Bollywood, dawnsio America Ladinaidd a lawer mwy. Mae’r coleg hefyd wedi cynnal gŵyl y fflamau gan weithio gyda’r gymuned leol. Cafodd dros 142 o fyfyrwyr cynradd y cyfle i redeg gyda Fflam Olympaidd 1948 tra’n dysgu am bwysigrwydd gweithgaredd corfforol a’r Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd. Pan ddaw’r Fflam Olympaidd i Nottingham y flwyddyn nesaf, mae’r coleg yn bwriadu cynnal eu taith gyfnewid y fflam eu hunain unwaith eto. Mae’r coleg hefyd wedi cynnal rhaglen gyfoethogi oedd yn canolbwyntio ar gyflwyno ystod o chwaraeon Olympaidd a Pharalympaidd i’r myfyrwyr. Mae’r chwaraeon a roddwyd cynnig arnynt hyd yma’n cynnwys Caiacio, Cleddyfa, Saethyddiaeth, Tennis Bwrdd, Badminton, Bocsio, Jwdo ac Athletau. Eleni, mae’r coleg yn bwriadu cyflwyno mwy o chwaraeon yn cynnwys Triathlon, Pêl-foli, Seiclo, Deifio, Trampolinio, Pêl-law a Phêl-fasged Cadair Olwyn.

Dewiswyd y coleg fel coleg y mis rhwydwaith Bydd Barod ar sail blog post arbennig iawn oedd yn disgrifio’r gweithgareddau yr oedd y myfyrwyr wedi cymryd rhan ynddynt. Bydd y coleg yn derbyn llythyr i’w llongyfarch oddi wrth Seb Coe, Cadeirydd Pwyllgor Trefnu Llundain y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd, ac maent wedi ennill ymweliad gan athletwr fel gwobr am eu hymdrechion.

Os hoffech chi fod â gobaith o gael eich dewis fel ‘ysgol neu goleg y mis Rhwydwaith Bydd Barod’ ond nad ydych eto yn aelod o Rwydwaith Bydd Barod, yna gwnewch gais heddiw a dechrau blogio!

Gwnewch gais nawr