Allwch chi roi tîm o bobl ifanc 16-18 oed at ei gilydd i helpu i gynnal Gemau Llundain 2012?
Ceisiadau i raglen Gemau-Grewyr Ifanc nawr yn agored!
22 Med 2011
Rydym yn chwilio am dros 2,000 o bobl ifanc 16-18 oed i helpu i gynnal y sioe fwyaf yn y byd yr haf nesaf.
Mae angen Gemau-Grewyr Ifanc ar amryw o adrannau Llundain 2012, o Chwaraeon Dŵr i Athletau, Taekwondo i Dechnoleg.
Bydd gwirfoddolwyr yn cael eu hyfforddi’n llawn yn eu swyddogaethau, fyddd yn amrywio o ddosbarthu canlyniadau athletwyr i swyddogion mewn lleoliad, i gario citiau athletwyr ar y maes chwarae.
Mae hwn yn gyfle unwaith-mewn-oes i bobl ifanc gymryd rhan yn y Gemau – tra’n dysgu sgiliau newydd, ennill profiad a gwneud ffrindiau newydd.
Rydym eisiau i wirfoddolwyr ifanc gael profiad gwych a chael eu gofalu amdanynt yn dda, felly rydym yn recriwtio ar gyfer timau o Gemau-Grewyr Ifanc, dan arweiniad arweinydd tîm sydd eisoes yn gweithio gyda hwy.
Os ydych chi’n credu bod gennych chi’r hyn sydd ei angen i arwain tîm o wirfoddolwyr ifanc o’ch ysgol neu goleg gwnewch gais nawr!
Gellir gwneud cais hyd at hanner nos ar 31 Hydref 2011













