• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Olympaidd

Newyddion

Ysgol y mis rhwydwaith Bydd Barod Hydref 2011 yw.....
26 Hyd 2011

Mae St Catherine’s RC school yn cynnal nifer o brosiectau cyffrous yn gysylltiedig â‘r Gemau Olympaidd a Pharalympaidd!!

Yn ystod y flwyddyn academaidd hon mae myfyrwyr wedi cael eu cyflwyno i’r Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd trwy gyfrwng gwasanaethau ac ymgyrch posteri. Bob hanner tymor caiff myfyrwyr o bob grŵp blwyddyn eu gwobrwyo am arddangos y Gwerthoedd yn ystod gwersi a digwyddiadau’r ysgol.

Mae’r ysgol hefyd wedi bod yn cynnal diwrnodau Every Child Matters, pan fo myfyrwyr yn cael blas ar wahanol gampau Olympaidd a Pharalympaidd megis Seiclo, Pêl-law, Saethyddiaeth a Phêl-droed Dall, a dysgu am fodelau rôl, chwarae teg, gwaith tîm, sbortsmonaeth a defnyddio cyffuriau mewn chwaraeon. Mae St Catherine’s RC school hefyd wedi mynd â‘r Gwerthoedd i wersi eraill. Mae’r myfyrwyr wedi bod yn dysgu am saliwt Pŵer Du Gemau Mecsico 1968, ac mae myfyrwyr blwyddyn 10 wedi creu gwaith celf 3D a ysbrydolwyd gan Gemau Llundain 2012.

Dewiswyd yr ysgol fel ysgol y mis rhwydwaith Bydd Barod ar sail blogiau post arbennig iawn oedd yn disgrifio’r gweithgareddau yr oedd y myfyrwyr wedi cymryd rhan ynddynt. Bydd yr ysgol yn derbyn llythyr i’w llongyfarch oddi wrth Seb Coe, Cadeirydd Pwyllgor Trefnu Llundain y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd, ac ymweliad sypreis gan westai Llundain 2012!

Os hoffech chi fod â gobaith o gael eich dewis fel ‘ysgol neu goleg y mis Rhwydwaith Bydd Barod’ ond nad ydych eto yn aelod o Rwydwaith Bydd Barod, yna gwnewch gais heddiw a dechrau blogio!

Ymunwch â rhwydwaith Bydd Barod heddiw!