Springwood Community Primary School yw ysgol gynradd y mis rhwydwaith Bydd Barod!
Ysgol gynradd y mis Rhwydwaith Bydd Barod'yw...
26 Hyd 2011
Springwood Community Primary School yw ysgol gynradd y mis rhwydwaith Bydd Barod!
Mae Springwood Community Primary School yn ymrwymedig i ledaenu’r Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd ac i ymgysylltu ei myfyrwyr ag amrywiaeth o chwaraeon Olympaidd a Pharalympaidd!
Mae Springwood Community Primary School wedi bod yn dathlu’r Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd mewn gwasanaethau bob bore Mercher. Bob wythnos caiff un disgybl o bob dosbarth ei ddewis am fyw yn ôl un o’r Gwerthoedd. Bydd gwobrau yn cael eu cyflwyno iddynt a bydd eu henwau yn mynd i raffl fydd yn cael ei thynnu’n ddiweddarach yn y flwydddyn academaidd. Bydd y myfyrwyr fydd yn cael eu dewis yn derbyn tocyn Ticketshare Llundain 2012 i fynd i’r Gemau.
Yn ddiweddar mae pob disgybl yn yr ysgol wedi rhoi cynnig ar y gamp Baralympaidd Pêl-gôl ac wedi cael blas ar sut beth yw cystadlu’n ddall; maent yn bwriadu rhoi cynnig ar bêl-foli eistedd nesaf! Mae’r ysgol hefyd yn cynnal clwb bocsio di-gyffwrdd i fechgyn a merched, sydd wedi cael cydnabyddiaeth genedlaethol am newid lefelau cyrhaeddiad yn yr ysgol.
Dewiswyd yr ysgol fel ysgol gynradd y mis rhwydwaith Bydd Barod ar sail blog post arbennig iawn oedd yn disgrifio’r gweithgareddau yr oedd y myfyrwyr wedi cymryd rhan ynddynt. Bydd yr ysgol yn derbyn llythyr i’w llongyfarch oddi wrth Seb Coe, Cadeirydd Pwyllgor Trefnu Llundain y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd, a byddant yn cael ymweliad sypreis gan westai Llundain 2012!
Os hoffech chi fod â gobaith o gael eich dewis fel ‘ysgol neu goleg y mis Rhwydwaith Bydd Barod’ ond nad ydych eto yn aelod o Rwydwaith Bydd Barod, yna gwnewch gais heddiw a dechrau blogio!













