Defnyddio barddoniaeth i ysbrydoli athletwyr sy'n cystadlu a gwylwyr y Gemau.
Menter farddoniaeth Geiriau Gorau 2012 yn cael ei lansio'n genedlaethol
7 Hyd 2011
Bydd Geiriau Gorau yn dod â chyfrwng deinamig barddoniaeth i’r Parc Olympaidd, mannau cyhoeddus, ysgolion a chymunedau lleol, gan ysbrydoli’r holl wlad i greu cyd-destunau newydd a chyffrous i farddoniaeth. Lansiwyd y rhaglen heddiw yn y Globe Academy yn Southwark (aelod o rwydwaith Bydd Barod).
Mae’r Awen yn gêm farddonol newydd, ryngweithiol ar-lein ar gyfer Ysgolion Cynradd ac Uwchradd, a grewyd fel rhan o fenter ehangach i ddathlu a hyrwyddo barddoniaeth wrth i Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012 agosau. Gan ddefnyddio geiriau o gronfa o farddoniaeth a ysbrydolwyd gan chwaraeon a delfrydau ac ysbrydoliaeth Olympaidd, gall myfyrwyr weithio gyda’i gilydd i archwilio gwahanol fathau o farddoniaeth, ysgrifennu eu cerddi eu hunain a pherfformio eu gwaith gorffenedig o flaen eu dosbarth. Mae’r gêm yn cynnig dull newydd o ddysgu barddoniaeth yn y dosbarth ac yn tynnu barddoniaeth oddi ar dudalen o bapur.
Mae adran ‘geiriau ysbrydoledig’ y wefan yn cynnig cronfa enfawr o gerddi a ysbrydolwyd gan y Gemau, wedi eu cysylltu â chwaraeon, lleoliadau a Gwerthoedd gwahanol.
Wedi ennill y Nod Ysbrydoli am adnoddau addysg sy’n darparu ysbrydoliaeth i bobl ifanc mewn cysylltiad â Llundain 2012 i greu eu cerddi eu hunain, mae Geiriau Gorau yn rhan o’r hyn mae rhaglen addysg Llundain 2012 yn ei gynnig i ysgolion yn y DU fydd yn cefnogi pobl ifanc i archwilio sut mae chwaraeon yn dod â‘r byd at ei gilydd Bydd Barod byd-eang . Mae’r rhaglen hon hefyd yn rhan o Bydd Barod+.













