• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Olympaidd

Newyddion

Liverpool Community College yn cael ymweliad gan enillydd medal aur Team USA!
6 Hyd 2011

Gyda llai na blwyddyn i fynd hyd at Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012, cymerodd Henry Cejudo, aelod o Team USA, egwyl fer oddi wrth ei ymarfer i gyfarfod â myfyrwyr o Liverpool Community College.

Ysgrifennwyd y stori newydd ganlynol gan Jenny MvNicholas, myfyrwraig o’r coleg.

Henry Cejuda, 24, oedd y pencampwr Olympaidd ieuengaf yn hanes reslo’r UDA pan ennillodd yng Ngemau Olympaidd Beijing 2008.

Ymwelodd Cejudo â Liverpool Community College fel gwobr i gydnabod bod ein coleg yn cofleidio’r Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd. Roedd Cejudo yn Lerpwl fel rhan o Team USA: Britain Bound, ddaeth â saith o bencampwyr Olympaidd a Pharalympaidd i deithio o gwmpas Prydain cyn Gemau 2012.

Dywedodd y resliwr dull rhydd wrth y myfyrwyr am hanes ei fywyd ac am sut y datblygodd o fod yn fab i ymfudwr o Fecsico oedd yn byw mewn iard jync i fod yn sefyll ar bodiwm gyda medal aur yn Tsieina. Mae ei stori yn profi y gallwch lwyddo er gwaetha pob rhwystr. “Roedd yn waith caled bob dydd. Cefais fy mychanu a phobl yn dweud wrtha i na allwn lwyddo,” dywedodd Cejudo wrth fyfyrwyr LCC.

Cafodd Cejudo blentyndod anodd. Mentrodd ei deulu eu bywydau er mwyn dod i’r America i ddilyn y freuddwyd Americanaidd. Roedd ei fam yn byw yn slymiau Mecsico, yr oedd yn ei gymharu â‘r ffilm ‘Slumdog Millionaire,’ ac nid oedd ei dad yn bresennol yn ystod ei blentyndod, gan adael iddo gael ei fagu gan ei fam a’i siblingiaid.

Pan yr oedd Cejudo’m sôn am ei blentyndod gellid clywed y boen yn ei lais, ond roedd ei angerdd yn amlwg wrth iddo sôn am ei ieuenctid: “Fel plant, nid oedd gennym y tegannau diweddaraf, ond y prif beth oedd gennym oedd cariad, a dyna sydd wedi fy nghario i ble’r wyf heddiw.” Mae ei fywyd wedi cael ei drawsnewid i ble mae o heddiw. “Y fi oedd y plentyn oedd heb drainers, a nawr mae gen i fy nhrainers gyda fy mrand fy hun.”

Siaradodd Cejudo am Gemau Olympaidd 1996 a wyliodd mewn trelar iard jync a alwodd yn gartref: “Roedd yn dlodi llwyr; rwyf yn cofio’u gwylio ar deledu du a gwyn. Roedd y teledu mor hen roedd yn rhaid i ni ddefnyddio gefel i newid sianel. Newidiwyd fy mywyd pan wyliais Michael Johnson (athletwr trac UDA) – o’r diwrnod hwnnw roedd gen i freuddwyd, nod, rhywbeth i ddyheu amdano. Dyna sut y dechreuodd fy mreuddwyd – trwy Michael Johnson.”

Fel nifer o bobl ifanc heddiw, dewisodd Cejudo ei lwybr; fodd bynnag, mae’n teimlo ei fod yn lwcus ei fod wedi canfod ei ddawn a’i angerdd: “Mae gen i ffrindiau sydd wedi cael eu saethu’n farw neu sydd yn y carchar – gallwn i fod wedi bod felly.”

Cejudo oedd y bachgen a adawodd ei gartref yn 16 oed i ddilyn ei freuddwyd: “Galllant ddwyn fy arian, fy nhad, fy nghartref, ond fyth fy mreuddwyd.” Nid yn unig y pwysleisiodd werthoedd rhwydwaith Bydd Barod, rhoddodd hefyd araith ysbrydoledig i’r myfyrwyr a orffenodd gyda thri cham pwysig i’w lwyddiant: “Heddiw rwyf eisiau gadael tri pheth gyda chi yn bwysicach na dim: breuddwydiwch – anelwch am y gorau y gallwch fod. Aberthwch – aberthais i ffrindiau a theulu a hyd yn oed ambell i enchilada. Ac yn olaf, buddugoliaeth.”

Ynglŷn â Team USA: Britain Bound: Gyda llai na blwyddyn i fynd hyd at Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012, cymerodd saith o bencampwyr Olympaidd a Pharalympaidd Team USA egwyl fer oddi wrth eu hymarfer i fynd ar deithiau cofiadwy a gwmpas gwledydd Prydain. Wrth archwilio’r cymunedau fydd yn croesawu’r byd yr haf nesaf, cafodd athletwyr Team USA brofi popeth sydd gan Brydain ei gynnig – o’r lleoliadau Olympaidd i safleoedd diwylliannol a hanesyddol Cymru, Yr Alban a Lloegr.
Dewch i ddarganfod mwy

Beth am gefnogi o leiaf un tîm Olympaidd a Phralympaidd, yn ogystal â TeamGB a ParalympicsGB? Mae adnoddau bod yn gefnogwr yn darparu cyfleoedd a chyngor i chi a’ch myfyrwyr ynglŷn â dewis eich timau.
Dewch i ddarganfod mwy