Gall ysgolion brynu tocynnau am ostyngiad!
Rowndiau Terfynol Mawreddog Pro Tour y Ffederasiwn Tennis Bwrdd Rhyngwladol (ITTF) yn ExCeL
17 Hyd 2011
Mae Rowndiau Terfynol Mawreddog yr ITTF Pro Tour yn cael eu cynnal yn ExCel rhwng 24 a 27 Tachwedd 2011.
Mae rhai o chwaraewyr tennis bwrdd gorau’r byd yn cystadlu yn y twrnament am yr anrhydedd o gael eu coronni yn bencampwyr y Pro Tour. Mae’r digwyddiad hwn hefyd yn cael ei ddefnyddio gan drefnwyr Llundain 2012 i brofi gweithrediadau hanfodol cyn y Gemau Olympaidd y flwyddyn nesaf. Gallwch fwynhau cystadlaethau sengl a dwbl dynion a merched ac ar ddydd Gwener 25 Tachwedd bydd Prydain yn herio gweddill y byd wrth iddynt brofi eu sgiliau yn erbyn rhai o’r chwaraewyr tannis bwrdd rhyngwladol gorau.
I ysgolion dim ond £5 yw pris tocynnau ar 24 a 25 Tachwedd a bydd yn ddiwrnod llawn cyffro.
- 1 athro/tywysydd am ddim gyda phob 5 myfyriwr sy’n talu.
- Cyfle i wylio unrhyw sesiwn y diwrnod hwnnw
- Sesiynau am ddim yn yr ardal gweithgareddau tennis bwrdd
- Rhaglenni am ddim
Cofrestrwch eich ysgol i gael tocynnau
neu ffoniwch Harry Peacock ar 07506 624680.













