• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Paralympaidd

Newyddion

Cystadleuaeth dwlu am y dolydd
26 Hyd 2011

Mae ysgolion yn Llundain yn cael gwahoddiad i ddylunio dolau bychain a ysbrydolir gan y Gemau mewn cynhwysydd anarferol neu ran o diroedd yr ysgol.

Efallai bydd y myfyrwyr yn penderfynu dylunio eu dôl mewn pwced, berfa, hen gwch neu mewn hen bêl-droed! Y nhw sydd i benderfynu ar y lleoliad mwyaf cynaliadwy a dyfeisgar ar gyfer eu dolau.

Bydd cant o ysgolion fydd yn cymryd rhan yn y gystadleuaeth yn derbyn paced o hadau a’r holl help a chyngor y bydd ei angen arnynt i roi bywyd i’w dyluniad. Bydd deg enillydd lwcus hefyd yn cael gwahoddiad i fynychu seremoni wobrwyo ac yn derbyn tocyn £50 siop Llundain 2012.

Bydd y gystadleuaeth yn cau ar 9 Rhagfyr 2011 ac mae’n agored i fyfyrwyr rhwng 5 ac 16 oed mewn ysgolion yn Llundain.

Dewch i ddarganfod mwy a chystadlu nawr!

Anogir yr ysgolion sy’n cymryd rhan yn y gystadleuaeth hon i ymuno â rhwydwaith Bydd Barod er mwyn derbyn mwy o fuddion a chydnabyddiaeth gan Lundain 2012.

Ymunwch â rhwydwaith Bydd Barod heddiw!