• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Paralympaidd

Newyddion

Chantry High School yn Apus yn Rownd Derfynol Her GTPM 7
24 Hyd 2011

Mae Chantry High School, Suffolk wedi ennill yr her GTPM ddiweddaraf!

Roedd y gystadleuaeth yn gofyn i fyfyrwyr ar draws y DU i weithio mewn timau i ddylunio ap ffôn y gellir ei ddefnyddio gan ymwelwyr â Llundain 2012.

Mae Heriau GTPM yn gyfres o gystadlaethau a ddyluniwyd i annog pobl ifanc rhwng 11 a 14 oed i ddefnyddio sgiliau a ddysgwyd mewn gwersi Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg i helpu i baratoi ar gyfer Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012 Mae STEMNET (Rhwydwaith Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg) yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau mawr i reoli’n genedlaethol bob Her ar gyfer Ysgolion Uwchradd y DU.

Gofynnodd Her GTPM 7 i fyfyrwyr helpu i wneud Llundain 2012 yn Gemau i Bawb trwy ddylunio ap sy’n rhoi gwybodaeth ddefnyddiol y gellir ei chyfathrebu a chael gafael arni yn y ffordd orau bosibl er mwyn cyfrannu at brofiad Gemau gwych i bawb.

Yn dilyn cystadlaethau rhanbarthol, cyrhaeddodd wyth o ysgolion o’r DU gyfan y rownd derfynol genedlaethol yn yr Amgueddfa Astudiaethau Natur ar Hydref 20. Roedd pob tîm o fyfyrwyr rhwng 11 a 14 oed yn cystadlu wrth wneud cyflwyniad dull Dragons’ Den o flaen panel o arbenigwyr.

Canmolwyd y dyluniad buddugol, a gyflwynwyd gan Chantry High School, am ei orffeniad proffesiynol a’i wybodaeth dechnegol drylwyr. Enillodd y tîm werth £1,000 o offer i’w Clwb GTPM a gwobr brofiad gan BT. Rhoddwyd yr ail wobr i Team Oxidise o Blessed Edward Oldcorne Catholic College, Henffordd, a dderbyniodd £750, a rhoddwyd y drydedd wobr a £500 i Broxburn Academy o Ddwyrain Yr Alban. Roedd y beirniaid yn chwilio am syniad creadigol a dyfeisgar oedd hefyd yn defnyddio’r Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd, yn ogystal â thystiolaeth o waith tîm rhagorol a datblygu syniadau ysbrydoledig.

Mae pob ysgol a choleg sy’n rhan o GTPM yn gymwys i dderbyn gwobrau a chydnabyddiaeth bellach gan Lundain 2012 trwy ymuno â rhwydwaith Bydd Barod.

Ymunwch â rhwydwaith Bydd Barod heddiw!