• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Paralympaidd

Newyddion

Prif athletwyr a phlant ysgol lleol yn gyntaf ar drac gorffenedig y Stadiwm Olympaidd
3 Hyd 2011

Heddiw dathlodd Llundain 2012 garreg filltir arall yn y Parc Olympaidd.

Deiliad record y byd ac enillydd medal aur Baralympaidd Dan Greaves, deiliad record Naid Hir Prydain Chris Tomlinson ac enillydd medal arian Pencampwriaeth IAAF y Byd Hannah England oedd yr athletwyr cyntaf i ddefnyddio’r trac.

Ymunodd plant ysgol lleol o West Ham Church Primary School â hwy, aelod o rwydwaith Bydd Barod fydd yn elwa o gynlluniau gwaddol y Stadiwm i fod yn leoliad chwaraeon, athletau, digwyddiadau cymunedol a diwylliannol.

Dywedodd Rimsha, myfyriwr o West Ham Church Primary School, “Roedd yn deimlad cyffrous iawn cael bod y bobl cyntaf i redeg ar y trac Olympaidd. Roeddwn wrth fy modd yn gofyn cwestiynau i’r Arglwydd Sebastian Coe”

Bydd y trac Mondo, a osodwyd fis Awst, yn wyneb cyflym ar gyfer athletwyr Olympaidd a Pharalympaidd yn ystod y cystadlu yn 2012. Gosodwyd yr un wyneb ar gyfer y gwibio 80m yn union o dan un o’r prif eisteddleoedd a bydd trac ymarfer 400m yn cael ei osod yn agos i’r stadiwm yn fuan.

Dywedodd Seb Coe, Cadeirydd LOCOG: ‘Mae heddiw’n garreg filltir enfawr i’r prosiect, wrth i’r Stadiwm Olympaidd ddechrau dod yn fyw a phobl yn cael cip ar sut fydd o’n edrych mewn llai na deg mis pan fyddwn yn croesawu athletwyr y byd i Lundain. Er bod dipyn o waith i’w wneud o hyd ar y Stadiwm, mae gweld rhai o brif athletwyr Prydain ar y trac gyda phlant ysgol lleol yn tanlinellu potensial y Stadiwm ar gyfer 2012 a thu hwnt.’

Dywedodd y Gweinidog Chwaraeon, Hugh Robertson: ‘Mae hwn yn ddarn arall yn y jigsô ar gyfer ein Stadiwm Olympaidd. Rwy’n sicr y byddwn yn gweld rhai recordiau byd yn cael eu chwalu ar y trac yma y flwyddyn nesaf a rhai perfformiadau ysbrydoledig gan athletwyr gorau’r byd. Ac am waddol gwych fyddai gweld Llundain yn cael ei dewis gan yr IAAF i fod yn ddinas gynnal Pencampwriaethau Athletau’r Byd yn 2017.’