Dros y pedair wythnos olaf, mae dros 4,000 o ddisgyblion ysgol o 180 o ysgolion wedi cymryd rhan!
Wenlock a Mandeville yn ymuno á chymal olaf mis o daith gerdded gyfnewid ar thema'r Gemau!
3 Tach 2011
Bydd Wenlock a Mandeville, dau fasgot Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012, yn rhoi un gwthiad olaf i gymal olaf taith gerdded gyfnewid ar thema Gemau Llundain 2012 fu’n para am fis – the Big WoW – cyn iddi ddod i ben ar ddydd Gwener, 4 Tachwedd.
Dros y pedair wythnos olaf, mae dros 4,000 o ddisgyblion ysgol o 180 o ysgolion wedi cymryd rhan yn y daith gerdded i gario Tortshys Olympaidd Llundain 1948 a Melbourne 1956 trwy bob bwrdeistref yn Llundain.
Bydd y masgotiaid yn ymuno á thua 200 o ddisgyblion o 16 o ysgolion yn Greenwich wrth i’r Tortshys Olympaidd gyrraedd diwedd y daith gerdded gyfnewid a noddwyd gan Transport for London (TfL), sy’n rhan o fis o weithgareddau cerdded ar thema Gemau Llundain 2012. Mae’r daith gyfnewid yn rhan o’r Big Wow blynyddol eleni er mwyn annog plant cynradd i gerdded i’r ysgol ac i wneud cerdded yn rhan o’u bywyd bob dydd.
Cychwynodd y daith gyfnewid ar 3 Hydref yn Newham, gan fynd heibio i un o lwybrau Cerdded a Seiclo Gemau 2012 cyn mynd i Havering ble ymunodd athletwyr Olympaidd presennol ac o’r gorffenol ac enwogion yn cynnwys Lloyd Scott MBE, enillydd Medal Aur Olympaidd, Pencampwr y Byd ddwy waith am rwyfo Mark Hunter MBE, a’r athletwraig ifanc Victoria Ohuruogu yn lansiad y daith gyfnewid.
Dywedodd Ben Plowden, Cyfarwyddwr Better Routes and Places yn TfL: “Mae’n galondid gweld cymaint o blant yn cymryd rhan yn y daith gerdded gyfnewid. Rydym yn gobeithio bydd y profiad yn ysbrydoli plant i ledaenu’r gair i’w rhieni ac i gerdded yn amlach i’r ysgol ac ar deithiau eraill, ac i ddefnyddio’r llwybrau cerdded a seiclo yr ydym wedi bod yn eu gwella i fod yn barod erbyn Gemau 2012 a thu hwnt.”
Yn ychwanegol at y daith gyfnewid, bu’r disgyblion yn cymryd rhan mewn amrywiol weithgareddau ar thema Gemau Llundain 2012 fel rhan o’r Big WoW. Er enghraifft, mae cystadleuaeth o’r enw ‘Welcome to my Borough’ wedi bod yn cael ei chynnal. Mae pob ysgol sy’n cymryd rhan yn annog disgyblion i gyflwyno stori ffeithiol wedi ei hysbrydoli gan dirnodau lleol a welwyd yn ystod eu taith gerdded gyfnewid. Bydd cyflwyniadau buddugol cystadleuaeth ‘Welcome to my Borough’ yn cael eu harddangos yn Neuadd y Ddinas.
Anogir ysgolion sy’n cymryd rhan yn y Big WoW i ymuno á rhwydwaith Bydd Barod erbyn 16 Rhagfyr 2011. Yn ogystal â chreu cyfleon i blant a phobl ifanc gymryd rhan yng nghyffro Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012, mae aelodau rhwydwaith Bydd Barod yn cael mynediad at wobrau a chyfleon egsglwsif.













