• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Olympaidd

Newyddion

Mae Torriano Junior School yn dysgu am Daith Gyfnewid Fflam Llundain 2012, beth amdanoch chi?
7 Tach 2011

Llundain 2012 yn datgelu’r cymunedau fydd ar lwybr Taith Gyfnewid y Fflam Olympaidd ac yn gwahodd y DU i groesawu’r Fflam Olympaidd yr haf nesaf

  • Bydd dros 95% o’r boblogaeth o fewn 10 milltir i’r Fflam Olympaidd
  • Bydd gan 1,000 o gymunedau Gludwyr y Fflam fydd yn cario’r Fflam Olympaidd drwy eu strydoedd
  • Bydd pob sir yn Lloegr a phob Awdurdod Lleol yn Yr Alban, Gogledd Iwerddon a Chymru yn croesawu’r Fflam Olympaidd.

Heddiw cadarnhaodd Pwyllgor Trefnu Llundain y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd (LOCOG) yr holl gymunedau y bydd y Fflam Olympaidd yn cael ei chario trwyddynt gan Gludwyr y Fflam yn ystod Taith Gyfnewid Fflam Olympaidd Llundain 2012 sy’n cael ei chyflwyno gan Coca-Cola, Lloyds TSB a Samsung.

Gwahoddir pobl i edrych ar y map rhyngweithiol i ganfod y gymuned agosaf iddyn nhw y bydd y Fflam Olympaidd yn cael ei chario drwyddi.

Gan ddefnyddio gwahanol ddulliau trafnidiaeth yn cynnwys ceffyl, beic, tram a thrên stêm, bydd Taith Gyfnewid y Fflam Olympaidd hefyd yn cynnwys adegau cyffrous o uchder eithafol, cyflymder mawr a golygfeydd trawiadol. Bydd pob sir yn Lloegr a phob Awdurdod Lleol yn Yr Alban, Gogledd Iwerddon a Chymru yn croesawu’r Fflam Olympaidd, a bydd yn cyrraedd mor bell i’r gogledd â Lerwick yn Yr Alban, St Helier yn y de, Lowestoft yn y dwyrain ac Enniskillen yn y gorllewin. Bydd y Fflam Olympaidd yn ymweld â thirnodau adnabyddus, yn cynnwys Yr Wyddfa, Stormont, Loch Ness a Stonehenge. Disgwylir y bydd llawer o filoedd o bobl groesawu’r Fflam Olympaidd ar hyd y llwybr bob dydd ac yn dathlu llwyddiant Cludwyr y Fflam mewn parciau, sgwariau a strydoedd ar hyd a lled y DU.

Mae myfyrwyr Torriano Junior School eisoes wedi bod yn dysgu am Daith Gyfnewid Fflam Llundain 2012, a gallwch chi wneud hynny hefyd!

Dewch i weld adnoddau newydd cyffrous ynglŷn â hanes Taith Gyfnewid y Fflam Olympaidd a Thortsh Gemau Olympaidd Llundain 2012!

Anogir ysgolion sy’n defnyddio’r adnoddau i ymuno â rhwydwaith Bydd Barod cyn 16 Rhagfyr 2011 er mwyn derbyn gwobr a chydnabyddiaeth egsglwsif gan Lundain 2012.