Ysgolion yn paratoi ar gyfer Llundain 2012 gyda grantiau i gynllunio eu Gemau!
'Cynlluniwch eich 2012
3 Tach 2011
Mae ysgolion yn cael cyfle i rannu eu hangerdd ac ysbrydoli eraill i ymuno â rhwydwaith Bydd Barod cyn 16 Rhagfyr 2011.
Mae ysgolion yn Lloegr sy’n aelodau o rwydwaith Bydd Barod ac sy’n ymgysylltu â Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012 yn cael gwahoddiad i wneud cais am grant o hyd at £8,800 i gefnogi ysgolion eraill yn eu hardal i ymwneud â Llundain 2012 ac i wneud y mwyaf o’r cyfleoedd sydd ar gael trwy raglen addysg swyddogol Llundain 2012 ‘Bydd Barod’.
Bydd ‘Cynlluniwch eich 2012’ yn cynnig cyfle i ysgolion sy’n ymuno â chynllun gwobrwyo a chydnabyddiaeth ‘rhwydwaith Bydd Barod’ Llundain 2012 rannu eu hangerdd am y Gemau, ysbrydoli ac ymgysylltu ag ysgolion eraill, pobl ifanc ac adeiladu partneriaethau yn eu cymunedau.Cyhoeddwyd y cynllun heddiw gan Gadeirydd LOCOG, Seb Coe a’r Gweinidog Plant, Tim Loughton yn Leytonstone Business and Enterprise Specialist School yn Waltham Forest. Mae’r ysgol yn aelod o rwydwaith Bydd Barod ac yn un o 42 o ysgolion sydd eisoes wedi ennill grant mewn cynllun peilot – nawr gall pob ysgol gymwys wneud cais.
Bydd Leytonstone Business and Enterprise Specialist School yn Waltham Forest yn defnyddio eu grant i ymgysylltu â disgyblion cynradd yn eu cymuned a datblygu sgiliau arwain eu myfyrwyr eu hunain.
Dewch i weld adroddiad ysgol y BBC ar y digwyddiad
Dywedodd Cadeirydd LOCOG, Seb Coe: ‘Mae aelodau rhwydwaith Bydd Barod yn eiriolwyr gwych i Lundain 2012 – yn dangos y gwahaniaeth positif y gall cysylltu dysgu â‘r Gemau ei wneud i bobl ifanc.’
Dywedodd y Gweinidog Plant, Tim Loughton: ‘Mae’n galonogol iawn gweld cymaint o ysgolion mor awyddus i gymryd rhan – o sefydliadau cynradd yn sefydlu cynghrair ar gyfer chwaraeon Olympaidd i ysgol uwchradd yn trefnu Olympiad Diwylliannol. Trwy Bydd Barod a Chynlluniwch Eich 2012 rydym yn rhoi cyfle i ysgolion greu eu gwaddol eu hunain fydd yn parhau ymhell y tu hwnt i 2012.’
Bydd yr ail rownd o geisiadau yn agor ar 28 Tachwedd ac yn cau ar 6 Ionawr 2012.
Bydd ysgolion fydd yn ymuno â rhwydwaith Bydd Barod cyn Dydd Gwener 16 Rhagfyr 2011 hefyd yn sicrhau dyraniad o docynnau i’r Gemau am ddim trwy fenter Ticketshare Llundain 2012, yn ogystal â gwobrau a chyfleoedd egsglwsif eraill.













