Ysgolion y DU yn mynd yn fyd-eang ac yn dangos cefnogaeth i dimau Olympaidd a Pharalympaidd tramor!
Cefnogwch Dîm!
15 Tach 2011
Mae ‘Cefnogi Tîm’ yn strand mawr newydd o ‘Bydd Barod byd-eang’, sy’n rhan o raglen addysg Llundain 2012 sy’n amcanu at helpu myfyrwyr i archwilio ac arddangos sut mae chwaraeon yn dod â‘r byd at ei gilydd.
Mae’r fenter a lanswyd heddiw yn annog ysgolion ar hyd y DU i gefnogi o leif un tîm Olympaidd ac o leiaf un tîm Paralympaidd tramor er mwyn helpu myfyrwyr i baratoi ar gyfer croesawu athletwyr ac ymwelwyr tramor i’w trefi, dinasoedd a chymunedau ar gyfer Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012 yr haf nesaf. Bydd ysgolion yn cael eu hannog i ddysgu am athletwyr a diwylliannau’r timau o’u dewis, yn ogystal â Team GB a ParalympicsGB, wrth i Gemau Llundain 2012 agosau.
Gall pob ysgol gael mynediad i adnoddau dysgu am ddim i’w helpu i ddewis eu timau. Bydd adnoddau a ddylunir i helpu pobl ifanc i gefnogi’r athletwyr fydd yn cystadlu ar ran Team GB a ParalympicsGB ar gael yn y flwyddyn newydd.
Lanswyd y cynllun heddiw gan Seb Coe, Cadeirydd Pwyllgor Trefnu Llundain y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd (LOCOG), yn Perryfields Primary School yn Oldbury, Birmingham. Mae’r ysgol wedi dewis cefnogi tîm Olympaidd Ethiopia oherwydd maent wedi cael eu hysbrydoli gan lwyddiannau a gwerthoedd Haile Gebrselassie, yr athletwr rhedeg pellter hir ar drac a ffordd. Maent hefyd wedi dewis cefnogi tîm Paralympaidd Zambia oherwydd mae ganddynt gysylltiad ag ysgol yn Zambia a hoffent ddefnyddio hyn i adeiladu ar y dysgu a wnaethpwyd am y Gemau Paralympaidd.
Heddiw maent yn dechrau ar eu dysgu drwy nifer o wahanol weithgareddau yn cynnwys ymchwilio i berfformiadau blaenorol Ethiopia a Zambia yn y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd, eu hathletwyr a’u ieithoedd. Bydd y disgyblion hefyd yn creu baneri a llumanau i ddangos eu cefnogaeth i’r timau.
Bydd yna hyd at 204 o dimau Olympaidd a 170 o dimau Paralympaidd yn cystadlu yn Llundain 2012 ac mae yna nifer o ffyrdd y gall ysgol ddewis tîm. Gall ysgol ddewis tîm y mae gan yr ysgol neu gymuned gysylltiad ag o eisoes neu sy’n siarad iaith a siaredir yn eu hysgol. Gallant ddewis tîm sy’n ymarfer yn agos atynt mewn Gwersyll Ymarfer Cyn-Gemau neu trwy ddefnyddio’r ‘teclyn dewis tîm’ ar y map rhyngweithiol, sydd ar gael ar wefan ‘Bydd Barod byd-eang’ .
Mae ysgolion eraill sydd eisoes wedi dewis eu timau yn cynnwys:
St Catherine’s College yng Ngogledd Iwerddon sy’n cefnogi timau Olympaidd a Pharalympaidd o Suriname ar ôl dysgu am y nofiwr rhyngwladol o Surinam a’r enillydd medal aur Olympaidd, Anthony Nesty.
Mae Lasswade High School ym Midlothian o’r Alban wedi dewis cefnogi Tsieina a De Affrica oherwydd cysylltiadau blaenorol ag ysgolion yn y gwledydd hynny. Mae ganddynt ddiddordeb arbennig yn nhîm Gymnasteg Tsieina ac maent yn dilyn paratoadau’r Paralympiad o Dde Affrica, Oscar Pistorius.
Mae Ysgol Gyfun Heol Ddu yng Nghymru yn cefnogi’r timau o Awstralia gan fod tîm Paralympaidd Awstralia yn ymarfer yn eu cymuned leol. Mae’r ysgol wedi cael ei chysylltu â Warialda High School yn New South Wales er mwyn datblygu eu dysgu.
Mae Culloden Primary School yn Tower Hamlets yn cefnogi tîm Olympaidd Bangladesh a thîm Paralympaidd Jamaica oherwydd bod ganddynt nifer fawr o fyfyrwyr o’r ddwy wlad.
Dywedodd Cadeirydd LOCOG, Seb Coe: ‘Rydym wedi dweud o’r cychwyn ein bod eisiau i bob tîm Olympaidd a Pharalympaidd deimlo bod croeso iddynt yma wrth gyrraedd y DU, tra’n dathlu amlddiwylliannedd ac amrywiaeth y DU. Mae hon yn enghraifft wych o’r ffordd yr ydym yn bwriadu gwneud hynny. Mae rhaglen Bydd Barod yn parhau i ysbrydoli ac ymgysyllu â phobl ifanc ar hyd y DU ac rwyf wrth fy modd yn meddwl y bydd gennym, trwy ‘Cefnogi Tîm’, grŵp o gefnogwyr ifanc gwybodus, cyffrous sy’n dangos diddordeb i groesawu’r athletwyr yn 2012. Buaswn yn annog pob ysgol i ddewis eu timau nawr’.
Bydd ysgolion hefyd yn cael cyfle i arddangos yr hyn maent wedi ei ddysgu am eu timau ac i ddathlu athletwyr, diwylliannau a chwaraeon y byd ar ddydd Llun 25 Mehefin 2012 fel rhan o Ddiwrnod Chwaraeon y Byd Llundain 2012 , a gyflwynir gan Lloyds TSB.
Bydd Barod yw rhaglen addysgol swyddogol Llundain 2012 ar gyfer ysgolion a cholegau ar draws y DU. Mae dros 25,000 o ysgolion eisoes wedi cofrestru gyda’r rhaglen. Mae’n rhoi mynediad am ddim i adnoddau i fyfyrwyr ac athrawon yn cynnwys ffilmiau, taflenni gweithgareddau a ffeithiau i gefnogi pobl ifanc wrth archwilio’r Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd ac i chwarae eu rhan yng Ngemau Llundain 2012.
Mae dros 8,000 wedi mynd un cam ymhellach wrth ymuno â chynllun gwybrwyo a chydnabyddiaeth rhwydwaith Bydd Barod trwy arddangos eu hymrwymiad i fyw yn ôl y Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd.
Bydd ysgolion sy’n ymuno â chynllun gwobrwyo a chydnabyddiaeth ‘rhwydwaith Bydd Barod’ cyn Dydd Gwener 16 Rhagfyr 2011 hefyd yn sicrhau dyraniad o docynnau i’r Gemau am ddim ar gyfer myfyrwyr rhwng 10 ac 18 oed trwy fenter Ticketshare Llundain 2012, yn ogystal â gwobrau a chyfleoedd egsglwsif eraill.













