• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Paralympaidd

Newyddion

Wenlock a Mandeville yn dathlu eu penblwydd cyntaf!
17 Mai 2011

Cymerodd Wenlock a Mandeville, masgotiaid Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012, seibiant heddiw o’u hamserlen brysur i ddathlu eu penblwydd cyntaf.

Cafodd y masgotiaid fwynhau parti penblwydd arbennig yn John Lewis, Oxford Street a fynychwyd gan Hanna Hicks fydd yn cystadlu mewn tennis bwrdd yn Llundain 2012 a phlant o Kilburn Park Primary School, sy’n aelod o rwydwaith Bydd Barod.

Mae’r ddeuawd ddeinamig wedi cael blwyddyn brysur yn teithio ar hyd a lled y DU, gan gyfarfod â phobl ifanc a’u hysbrydoli i ddewis chwaraeon wrth iddynt edrych ymlaen at Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012.

Mae’r masgotiaid wedi mynychu mwy na 200 o ddigwyddiadau ar hyd a lled y DU yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, llawer ohonynt mewn ysgolion sy’n rhan o rwydwaith Bydd Barod, yn cymryd rhan mewn diwrnodau chwaraeon ysgol a gwasanaethau arbennig Olympaidd a Pharalympaidd. Mae Wenlock a Mandeville hefyd wedi bod yn atyniad poblogaidd mewn digwyddiadau noddi Llundain 2012 megis Wythnos Chwaraeon Genedlaethol Lloyds TSB, Cwpan y Byd Paralympaidd BT a thrwy raglen ysgolion Deloitte. Buont hefyd yn dathlu’r briodas frenhinol trwy ymddangos fel Beefeater a Gwarchodydd y Frenhines mewn helfa fasgot yn Llundain.

Mae Wenlock a Mandeville wedi bod yn rhoi help llaw i athrawon a disgyblion mewn ysgolion yn y DU gydag ystod o adnoddau newydd sydd ar gael i ysgolion trwy Bydd Barod. Mae llawer o athrawon wedi defnyddio’r adnoddau fel sail prosiectau a gweithgareddau sy’n dangos ymrwymiad i’r Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd i gefnogi eu cais i ymuno â rhwydwaith Bydd Barod. Bu i dros 2,500 o ysgolion o bob gwlad a rhanbarth yn y DU gystadlu yn y gystadleuaeth gelf a dylunio ddiweddar, Bydd Barod i Greu Dy Fasgot.

Mae dilynwyr Wenlock a Mandeville hefyd yn defnyddio fersiynau digidol o’r masgotiaid gyda gemau cyfrifiadurol rhyngweithiol a dyfeisgar newydd. Mae addasydd masgot sy’n eich galluogi i greu eich fersiwn eich hunain o Wenlock a Mandeville gyda gwahanol ddillad ac offer chwaraeon wedi bod yn hynod boblogaidd.
Addaswch y masgotiaid heddiw!

Fe’i crewyd o’r ddiferion olaf o ddur oedd yn weddill wedi adeiladu trawst cynnal olaf y Stadiwm Olympaidd, ac mae eu henwau yn adlewyrchu hanes Olympaidd a Pharalympaidd cyfoethog y DU. Ysbrydolwyd enw Wenlock gan bentref Much Wenlock yn Swydd Amwythig ble roedd ‘Gemau Wenlock’ yn ysbrydoliaeth a ysgogodd sylfaenydd y mudiad Olympaidd modern, y Barwn Pierre de Coubertin, i greu’r Gemau Olympaidd. Stoke Mandeville yn Swydd Buckingham oedd yr ysbrydoliaeth y tu ôl i enw Mandeville. Yn y 1940au daeth Dr Ludwig Guttman i Ysbyty Stoke Mandeville i sefydlu uned asgwrn y cefn i helpu cyn-filwyr oedd yn dioddef ag anafiadau i linyn asgwrn y cefn. Wrth feddwl am ffyrdd i ysbrydoli’r rhai dan ei ofal, fe’u hanogodd i gymryd rhan mewn chwaraeon, a arweiniodd at ffurfio Gemau Stoke Mandeville, gaiff eu cydnabod yn gyffredinol fel rhagflaenydd y mudiad Paralympaidd modern.

Gwyliwch stori’r masgotiaid rhan 1

Gwyliwch stori’r masgotiaid rhan 2