Mis yn unig sydd ar ôl nes bod cystadleuaeth Bydd Barod i ymarfer blasu yn cau. Cyflwynwch eich cynigion nawr! Gallai'ch prydau bwyd chi fod yn danwydd torri recordiau yn Llundain 2012!
Mis yn unig ar ôl!
9 Mai 2011
Mae cystadleuaeth ‘Bydd Barod i ymarfer blasu’ yn gyfle unigryw a chyffrous i blant a phobl ifanc goginio’u ffordd i Gemau Llundain 2012!
Yn ogystal â chyfle i fwydo athletwr, mae ‘Bydd Barod i ymarfer blasu’ yn rhoi cyd-destun bywyd go-iawn ar gyfer dysgu ac addysgu am ffyrdd o fyw’n iach a phwysigrwydd deiet cytbwys maethlon. Mae gan y myfyrwyr gyfle greu tanwydd torri recordiau yn Llundain 2012. Y wobr fawr yw cael gweld eu prydau bwyd yn cael eu gweini ym Mhentref yr Athletwyr!
Mae yna bedwar categori gwahanol yn y gystadleuaeth: cynradd, uwchradd, arbennig ac A. B.
Dewch i ganfod mwy am y gystadleuaeth.
Edrychwch ar y ddau rysait isod am ysbrydoliaeth.
Mae’r rhain wedi cael eu cyflwyno gan aelod o rwydwaith Bydd Barod ar ran myfyriwr uwchradd. Mae yna flas Prydeinig i un pryd bwyd a blas rhyngwladol i’r llall.
Paella Pŵer Pedlo
Yn draddodiadol coginiwyd paella y tu allan, ar dân agored mewn paella anferth, ac roedd gwesteion yn bwyta gyda’i gilydd o’r paella. Mae’r syniad hwn o ddod â phobl at ei gilydd trwy fwyd iach yn debyg iawn i ddod â phobl, diwylliannau a digwyddiadau chwaraeon at ei gilydd yng Ngemau Olympaidd Llundain 2012.
Mae’r fersiwn hon o paella yn gytbwys faethlon gan ei bod yn cyfuno proteinau (corgimychiaid a chyw iâr) gyda charbohydredau (reis) a llysiau (tomatos, pupurau, pys a nionod). Defnyddir olew olewydd fel braster iach gyda garlleg, a gwybyddir fod i’r ddau lawer o fuddion iechyd.
Rysait 1: (Ar gyfer 4 person)
Cynhwysion
400g o domatos wedi eu torri’n fân
Halen/pupur i roi blas
2 llwy fwrdd o olew olewydd
400ml o stoc cyw iâr
1/2 pupur coch a 1/2 pupur gwyrdd
1 nionyn
Hanner cwpan y bys wedi’u rhewi
1 cwpan o reis paella
1/2 llwy de o turmeric
2 clof o arlleg wedi eu malu’n fân
250g o gorgimychiaid
Dull:
1. Ffrio’r brest cyw iâr wedi ddeisio mewn olew olewydd am 5 munud ac ychwanegu halen a phupur i roi blas.
2. Torri’r pupurau a’r nionyn a’u hychwanegu at y cyw iâr ynghyd â‘r garlleg, coginio am tua 10 munud.
3. Ychwanegu’r tomatos ynghyd â‘r stoc cyw iâr a rhoi’r cyfan i ferwi.
4. Ychwanegu turmeric, paprica a reis i’r badell a’i gorchuddio â chaead, mud-ferwi i leihau’r hylif.
5. Coginio am tua 20 munud neu nes bod yr hylif wedi cael ei amsugno.
6. Ychwanegu’r corgimychiaid sydd wedi eu coginio a’r pys a choginio am tua 5 i 10 munud.
Pwdin y Podiwm
Mae Pwdin Bara yn bryd nodweddiadol traddodiadol Prydeinig. Mae pwdin bara banana yn fwyd cysur; mae ei hyblygrwydd a’r ffaith ei fod yn hawdd i’w newid yn caniatau amrywiadau diddorol diddiwedd. Yn hanesyddol fe ystyrir ei fod yn doeslyd, trwm, yn uchel mewn braster ac yn ddrwg i iechyd rhywun, fodd bynnag mae’r addasiad hwn i’r rysait yn ei newid i fod yn bwdin ysgafn, maethlon a iach sy’n llawn egni.
Mae’r pwdin hwn yn darparu maeth allweddol oherwydd gwyddir fod bananas yn llawn egni ac yn darparu potasiwm a ffrwctos. Mae’r bara cyflawn ysgafn yn cynnwys carbohydrad startsh gaiff ei ryddhau i’r corff yn araf, sy’n helpu athletwyr i gynnal eu hegni am gyfnodau hirach. Mae’r ychydig o siwgr, ynghyd â‘r ffrwythau sych, yn darparu egni ychwanegol, tra bod yr ŵy yn darparu protein ynghyd â‘r calsiwm o’r llefrith a’r iogwrt naturiol braster isel.
Rysait 2: (Ar gyfer 4 person)
Cynhwysion
4 tafell o fara cyflawn
3 llwy fwrdd o sultanas
1 banana mawr aeddfed wedi ei sleisio
1 llwy de o echdynnyn fanila
200ml o lefrith
1 llwy fwrdd o farjarîn
3 llwy fwrdd o gyrren
1 llwy fwrdd o siwgr demerara
1 ŵy
1 llwy de o sinamon mâl
Dull:
1. Curwch yr ŵy a’r llefrith gyda’i gilydd gyda’r echdynnyn fanila.
2. Torrwch y crystiau oddi ar y bara a thaenu marjarîn arnynt (eu torri i ddarnau bychain). Rhowch hanner y gymysgedd bara mewn dysgl bobi 1 litr wedi ei hiro’n ysgafn.
3. Sleisiwch y banana a’i gymysgu gyda’r sultanas a’r cyrrens.
4. Rhowch hanner y gymysgedd banana-sultana dros y bara
5. Tywalltwch hanner y gymysgedd llefrith dros hyn, gan ofalu gorchuddio’r bara.
6. Fesul haen gosodwch weddil y gymysgedd bara, yna gweddil y gymysgedd banana, tywalltwch weddill y gymysgedd llefrith dro bopeth – pwyswch i lawr yn ysgafn i socian y bara.
7. Ysgeintiwch gyda’r siwgr a’r sinamon a’i bobi yn y popty ar 180C am tua 30 munud neu nes bod yr haenen uchaf o dameidiau banana wedi carameleiddio. Ei weini yn gynnes gyda iogwrt naturiol.
Ar gyfer pob un o’ch prydau, dywedwch wrthym pam eich bod yn meddwl eu bod yn cynrychioli y ddau ddiwylliant gwahanol.













