• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Olympaidd

Newyddion

Her GTPM 7: Lansio Her Rhaglen BT!
23 Mai 2011

Mae STEMNET a BT yn herio rhai 11-14 oed yn y DU i ddylunio rhaglen ‘app’ wedi ei hysbrydoli gan Lundain 2012.

Dylai’r rhaglen ddarparu gwybodaeth ddefnyddiol y gellir ei chyfathrebu a chael mynediad ati yn y ffordd orau bosibl, er mwyn cyfrannu at brofiad gwych o’r Gemau i bawb.

Gwyliwch gyflwyniad fideo i Her Rhaglen BT

Caiff rhaglenni eu dylunio i wneud eich bywydau rywfaint yn haws – neu’n fwy o hwyl o leiaf – trwy alluogi i wybodaeth ac adloniant gael ei gario o gwmpas yn eich poced neu fag a chael mynediad ato yn sydyn y syml drwy bwyso botwm.

A allai eich ysgol chi helpu i wneud Llundain 2012 yn Gemau i Bawb trwy ddylunio rhaglen unigryw fydd yn cyfrannu at brofiad gwych o’r Gemau i bawb?

Dewch i ganfod mwy am Her GTPM 7

Cofrestrwch eich timau nawr i gael cyfle i ennill y gwobrau rhyfeddol canlynol:
Gwobr 1af: Offer Clwb GTPM gwerth £1000 a gwobr profiad unigryw a roddir gan BT
2il wobr: Offer Clwb GTPM gwerth £750
3edd wobr: Offer Clwb GTPM gwerth £500