Cafodd ysgolion Essex gyfle i enwi pedwar o'r nodweddion ar Gwrs Beicio Mynydd Olympaidd Llundain 2012. Dewch i weld pwy yw'r enillwyr lwcus!
Cystadleuaeth Enwi Nodweddion Fferm Hadleigh
26 Mai 2011
Mae Cyngor Sir Essex a Phwyllgor Trefnu Llundain y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd yn cyhoeddi’n llawen fod yr enwau a’r ysgolion canlynol wedi ennill Cystadleuaeth Enwi Nodweddion Fferm Hadleigh!
Bydd yr enwau a ddewisir yn cael eu defnyddio gan sylwebwyr a beicwyr mynydd ar draws y byd i gyfeirio at y nodweddion hynny ar y cwrs yn ystod y digwyddiad profi swyddogol yn Fferm Hadleigh, y Gemau yn 2012 ac yn ystod defnydd yn y dyfodol ar y cwrs gan y bydd yn cael ei ddefnyddio ymhell ar ôl Gemau 2012.
Nodwedd 1: Leap of Faith Baddow Hall Junior School (Chelmsford)
Nodwedd 2: Deanes Drop The Deanes School (Thundersley)
Nodwedd 3: The Breathtaker Hadleigh Junior School (Hadleigh)
Nodwedd 4: Rabbit Hole Chelmer Valley High School (Chelmsford)
Llongyfarchiadau i’r ysgolion buddugol, a hoffem ddiolch i bob ysgol am gyflwyno cynigion rhagorol. Roedd y panel beirniadu a Phwyllgor Trefnu Llundain y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd wedi eu plesio’n fawr gyda’r gwaith mawr yr oedd yr ysgolion yn amlwg wedi ei roi i ddatblygu eu henwau. Bydd yr enwau buddugol nawr yn cael eu defnyddio yn ystod y digwyddiad profi yn Fferm Hadleigh ar 31 Gorffennaf 2011, yn ogystal â dod yn enwog bedwar ban byd pan fyddant yn cael eu defnyddio ar ddarllediadau teledu yn ystod y cystadlu fis Awst nesaf.













