Mae disgybl o Middle Park Primary School yn Eltham yn byw yn ôl y Gwerth Paralympaidd, penderfyniad!
Cynnau'r Golau
4 Mai 2011
Mae Cassy, disgybl yn Middle Park Primary School yn Eltham, de ddwyrain Llundain yn byw y Gwerth Paralympaidd o benderfyniad ac mae hi wedi cael ei gwobrwyo ag ymweliad gan fasgot Paralympaidd Llundain 2012, Mandeville!
Cafodd aelodau o rwydwaith Bydd Barod eu gwahodd i Gynnau’r Golau ar fyfyriwr trwy eu henwebu am fyw yn ôl un o’r Gwerthoedd Olympaidd neu Baralympaidd.
Cassy o Middle Park Primary School yw’r gyntaf i gael ei dewis gan banel o feirniaid am ennill y gystadleuaeth i ysgolion cynradd.
Mae Cassy yn caru chwaraeon ac yn cystadlu’n rheolaidd mewn cystadlaethau Jiwdo. Er iddi orfod colli ei choes dde, mae Cassy wedi ymladd llawer tro yn erbyn gwrthwynebwyr nad ydynt yn anabl ac wedi ennill medalau a thlysau rhyfeddol ar hyd y ffordd. Cynhaliodd yr ysgol wasanaeth i’w hanrhydeddu, a rhoddodd Cassy a thri o ddisgyblion eraill arddangosiad Jiwdo trawiadol cyn i Mandeville ymweld yn annisgwyl. “Meddyliais, ‘O, gosh,’ “ meddai Cassy wrth ail fyw y foment pan ddaru hi gyfarfod â Mandeville. Mae’r ysgol yn falch iawn o Cassy ac yn credu ei bod yn ymgorffori’r Gwerth Paralympaidd o benderfyniad.
Yn ystod yr wythnosau nesaf bydd chwe disgybl arall yn cael eu dewis o’r rhestr fer i gael ymweliadau gan Wenlock neu Mandeville am fyw un o’r Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd.













