Mae'n rhaid i ysgolion gyflwyno cais i fod yn rhan o rwydwaith Bydd Barod erbyn 16 Rhagfyr 2011 er mwyn bod yn gymwys i dderbyn eu dyraniad o docynnau.
Cyflwynwch gais i ymuno â rhwydwaith Bydd Barod heddiw a hawlio'ch tocynnau Ticketshare!
16 Mai 2011
Heddiw, mae Cadeirydd Llundain 2012 Seb Coe a Maer Llundain Boris Johnson wedi anfon neges groch i ysgolion yn Llundain ac ar draws y DU i sicrhau nad ydynt yn colli eu cyfle i dderbyn tocynnau i Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012.
Mae’n rhaid i ysgolion gyflwyno cais i fod yn rhan o rwydwaith Bydd Barod erbyn 16 Rhagfyr 2011 er mwyn bod yn gymwys i dderbyn eu dyraniad o docynnau.
Mae LOCOG a Maer Llundain wedi trefnu bod 125,000 o docynnau ar gael i blant ysgol yn Llundain trwy’r cynllun, sy’n golygu y bydd un o bob wyth o blant ysgol yn Llundain yn derbyn tocyn i naill ai Gemau Olympaidd neu Baralympaidd Llundain 2012. Bydd 50,000 o docynnau ychwanegol yn cael eu dosbarthu i ysgolion ar hyd a lled y DU. Rhoddir tocynnau Ticketshare trwy dreth ar becynnau lletygarwch Llundain 2012 a werthir gan Prestige Hospitality.
Fel rhaglen addysg swyddogol Llundain 2012 ar gyfer ysgolion a cholegau ar hyd a lled y DU, mae Bydd Barod yn anelu at gyfoethogi dysgu ac addysgu trwy helpu athrawon i gysylltu dysgu â Gemau Llundain 2012 a’r Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd. Trwy wefan Bydd Barod, gall athrawon a myfyrwyr gael mynediad i adnoddau am ddim megis ffilmiau a delweddau, cymryd rhan mewn cystadlaethau cysylltiedig â‘r Gemau a lawrlwytho taflenni ffeithiau a gweithgareddau. Gall ysgolion a cholegau sy’n dangos sut y maent yn defnyddio’r Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd i gyfoethogi eu cwricwlwm wneud cais i ymuno â rhwydwaith Bydd Barod. Bydd aelodau’r rhwydwaith yn derbyn tocynnau Ticketshare, yn ogystal â phlac rhwydwaith Bydd Barod, tystysgrif a’r hawl i ddefnyddio logo addysg Llundain 2012 ar eu gwefan, arwydd yr ysgol a phenllythyr. Mae aelodau o rwydwaith Bydd Barod hefyd yn cael mynediad i wobrau na all arian eu prynu megis ymweliadau gan athletwyr a theithiau o gwmpas y Parc Olympaidd.
Dywedodd Cadeirydd LOCOG Sebastian Coe, “Mae gan ysgolion a cholegau yn Llundain a’r DU gyfle euraidd i roi cyfle unwaith-mewn-oes i rai o’u disgyblion, tocynnau i weld y sioe fwyaf yn y byd. Mae mwy na 18,000 o ysgolion wedi cymryd eu camau cyntaf tuag at hawlio eu tocynnau drwy gofrestru â Bydd Barod. Nawr mae’n amser iddynt fynd un cam ymhellach a gwneud cais i ymuno â rhwydwaith Bydd Barod a hawlio eu tocynnau Ticketshare.”
Dywedodd Maer Llundain, Boris Johnson, “Ni allaf feddwl am neb sy’n haeddu sedd flaen y nigwyddiad chwaraeon mwyaf y byd yn fwy na’r genhedlaeth nesaf o Lundeinwyr. Felly, nid oes eiliad i’w wastraffu er mwyn sicrhau bod eich ysgol yn cael ei thocynnau ac yn cofleidio ysbryd a chyffro Gemau Llundain wrth edrych ymlaen at 2012.”













