• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Olympaidd

Newyddion

Aelodau rhwydwaith Bydd Barod yn ymweld â fferm!
31 Mai 2011

Dewiswyd plant ysgol o chwe bwrdeistref yn Llundain i ymweld â fferm Mener Anifeiliaid Cynhyrchu Bwyd (MACB) yn swydd Rhydychen yr wythnos hon fel rhan o raglen Ffermydd Agored McDonald’s.

Mae’r rhaglen yn codi ymwybyddiaeth ynglŷn â‘r rôl allweddol fydd gan ffermwyr Prydeinig a Gwyddelig o ran darparu cynnyrch ar gyfer Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012.

Mynychwyd y digwyddiad gan fyfyrwyr o bump o ysgolion rhwydwaith Bydd Barod; Greenslade Primary School yn Greenwich, Davis Lane Primary yn Waltham Forset, Holmleigh Primary yn Hackney, Selwyn Primary yn Newham, Parsloes primary yn Barking. Treuliodd yr ysgolion ddiwrnod ar fferm sydd yn cyflenwi peth o’r bwyd ar gyfer bwydlen McDonald’s gan weld â‘u llygaid eu hunain y safonau a’r lles gorau un.

Cafodd y plant wyth a naw oed gyfle i weld da byw yn cynnwys gwartheg, moch, ieir a defaid a chymryd rhan hefyd mewn gweithgareddau gyda thema Olympaidd oedd yn cysylltu’r hyn a welwyd ac a brofwyd i elfennau o gwricwlwm yr ysgol megis gwyddoniaeth, addysg gorfforol a dinasyddiaeth.

Mae’r ymweliad yn dilyn lansiad ffurfiol rhaglen Ffermydd Agored yn y Parc Olympaidd fis Mai diwethaf. Mynychwyd y digwyddiad gan Gadeirydd LOCOG, Yr Arglwydd Seb Coe, Grŵp Ymgynghori ar Fwyd LOCOG, ac uwch aelodau o’r byd amathyddol.

Yn y lansiad dywedodd yr Arglwydd Seb Coe: “Rydym eisiau cyfoethogi profiad pawb o’r Gemau trwy ddathlu’r amrywiaeth eang a’r safon y mae bwyd Prydeinig yn ei gynnig. Mae graddfa enfawr darparu 14 miliwn o brydau bwyd mewn dim ond pedair wythnos yn golygu bod hwn yn gyfle gwirioneddol i amaethyddiaeth Prydain. Bydd y bartneriaeth gref mae McDonald’s wedi ei feithrin gydag amaethyddiaeth ym Mhrydain ac Iwerddon yn ein helpu i gyflwyno’r weledigaeth fwyd yr ydym wedi ei gosod ar gyfer y Gemau ac yn ein helpu i gyflenwi gwaddol Olympaidd i’r byd ffermio.”

Dywedodd Mike Gooding o MACB: “Mae’n hynod bwysig ein bod yn addysgu pobl ifanc ynglŷn â sut mae ffermydd yn gweithio a’r safonau lles sydd angen eu bodloni ar gyfer cynhyrchu’r bwyd o’r safon uchaf.”

Roedd yr holl ysgolion a gymerodd ran yn y rhaglen yn aelodau o rwydwaith Bydd Barod. Yn ogystal â chreu cyfleon i blant a phobl ifanc gymryd rhan yng nghyffro Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012, mae aelodau rhwydwaith Bydd Barod yn cael mynediad at wobrau a chyfleon egsglwsif.
Gwnewch gais i ymuno â rhwydwaith Bydd Barod heddiw!