Pob mis, caiff ysgol wahanol ei dewis am eu hymrwymiad neilltuol i fyw yn ôl y Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd. Dewch i weld pwy sydd wedi cael ei ddewis!
Ysgol y mis rhwydwaith Bydd Barod Mawrth 2011!
24 Maw 2011
Mae ysgol gynradd Wantage Yr Eglwys yn Lloegr wedi cael ei dewis fel ysgol y mis rhwydwaith Bydd Barod!
Yn Wantage C of E Primary School, mae ein plant wedi eu cyffroi ynglŷn â‘r Gemau Olympaidd a Pharalympaidd yn dod i Lundain. Mae myfyrwyr wedi cymryd rhan mewn cyfnod o dair wythnos o weithgareddau sydd wedi eu hysbrydoli gan y Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd. Roedd y gweithgareddau’n cynnwys creu brecwast addas i Olympiad, dylunio fersiynau o Wenlock a Mandeville, creu dyluniadau crysau T wedi eu hysbrydoli gan y Gemau Olympaidd, perfformio seremoni agor ar thema Olympaidd, ac mae rhai myfyrwyr hyd yn oed wedi ail-greu rhannau o’r pentref Olympaidd ar y buarth! Mae’r myfyrwyr wedi dangos rhagoriaeth, cyfeillgarwch a pharch wrth ddysgu dilyn ffyrdd o fyw’n iach ac egnïol a gwisgo bathodynnau gyda balchder sy’n cydnabod eu bod wedi byw yn ôl y Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd. Mae’r ysgol gyfan yn falch eu bod wedi cael eu dewis yn ysgol y mis rhwydwaith Bydd Barod!
Dewiswyd yr ysgol ar sail blog post neilltuol oedd yn disgrifio’r gweithgareddau yr oedd y myfyrwyr wedi cymryd rhan ynddynt. Bydd yr ysgol yn derbyn llythyr i’w llongyfarch oddi wrth Seb Coe, Cadeirydd Pwyllgor Trefnu Llundain y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd, ac maent wedi ennill ymweliad gan athletwr fel gwobr am eu hymdrechion.
Os hoffech fod â gobaith o gael eich dewis fel ‘ysgol y mis Rhwydwaith Bydd Barod’ ond nad ydych eto yn aelod o Rwydwaith Bydd Barod, yna gwnewch gais heddiw a dechrau blogio!
Gwnewch gais nawr













