Enillydd medal aur Olympaidd, Tim Brabants yn paratoi i Ddysgu'n Gyntaf, ymarfer wedyn!
Ysbrydoli disgyblion Hackney yn ystod wythnos Dysgu'n Gyntaf.
3 Maw 2011
Rhoddodd Tim Brabants, enillydd medal aur Olympaidd, wers yn Haggerston School fel rhan o Wythnos Dysgu’n Gyntaf.
Rhoddodd Tim Brabants, enillydd medal aur Olympaidd am gaiacio, wers i fyfyrwyr Blwyddyn 9. Ymunodd â phobl flaenllaw o fyd busnes, gwleidyddiaeth, cyfryngau ac adloniant a gyfnewidiodd goridorau grym am goridorau ysgol wrth iddynt ddod yn athrawon am y diwrnod, fel rhan o Wythnos Dysgu’n Gyntaf genedlaethol yr elusen annibynnol Dysgu’n Gyntaf.
Ymunodd Tim ag athrawon gwadd eraill, yn cynnwys Prif Weithredwr Sainsbury’s Justin King a newyddiadurwr Channel 4 Jon Snow. Buont yn gweithio ag athrawon sydd wedi cael eu recriwtio a’u hyfforddi gan Dysgu’n Gyntaf, elusen annibynnol sy’n gweithio i sicrhau bod gan bob plentyn fynediad i ddysgu effeithiol ac ysbrydoledig.
Yn ei wers, roedd Tim yn amcanu at ganolbwyntio ar y Gwerthoedd Olympaidd – parch, cyfeillgarwch a rhagoriaeth – a’r Gwerthoedd Paralympaidd – penderfyniad, ysbrydoliaeth, dewrder a chydraddoldeb. Bu’n cefnogi’r myfyrwyr i archwilio pwysigrwydd y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd ac yn y pen draw i ysbrydoli Llundeinwyr ifanc i ymwneud â Llundain 2012.
Dywedodd y pencampwr caiacio Olympaidd, Tim Brabants: “I lwyddo i gyrraedd eich gorau glas, rydych angen cefnogaeth y rhai sydd o’ch cwmpas – teulu, athrawon, hyfforddwyr. Rwyf wedi bod yn ffodus iawn o gael derbyn y gorau syddd ar gael. Mae’r cyfle yn fy ngalluogi i drosglwyddo peth o’r gefnogaeth honno ac i helpu cenedlaethau’r dyfodol ar eu ffordd i lwyddiant.”













