• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Paralympaidd

Newyddion

Y tocyn gorau yn y byd!
15 Maw 2011

Fel aelodau o rwydwaith Bydd Barod, gwahoddwyd myfyrwyr o ysgol Preston Park Primary ac ysgol Friars Primary Foundation yn Southwark i ddathlu 500 o ddyddiau hyd at y Gemau Olympaidd.

Cafodd y myfyrwyr gyfarfod â Seb Coe, cadeirydd Pwyllgor Trefnu Llundain y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd a Boris Johnson, Maer Llundain. Hefyd, cawsant dynnu eu lluniau gyda’r Olympiaid Carl Lewis, Rebecca Adlington a Nadia Comaneci.

Heddiw, mae ceisiadau am docynnau Gemau Olympaidd Llundain 2012 yn agored. Gallwch wneud cais ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod o chwe wythnos hyd at 26 Ebrill 2011, trwy wefan docynnau Llundain 2012 .
Nid oes unrhyw fantais o wneud cais yn gynnar, nid yw’n gyntaf i’r felin. Bydd sesiynnau a ordanysgrifir yn destun enwau o het.

Bydd tocynnau ar gyfer Gemau Paralympaidd Llundain 2012 ar werth ar 9 Medi 2011.

Aelodau rhwydwaith Bydd Barod

Bydd ysgolion sy’n aelodau o rwydwaith Bydd Barod ac sy’n cymryd rhan yng Ngemau’r Ysgolion yn gallu sicrhau dyraniad o docynnau Ticketshare Llundain 2012 yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Mae menter Ticketshare Llundain 2012 yn gynllun newydd cyffrous fydd yn rhoi cyfle i filoedd o blant a phobl ifanc dderbyn tocynnau i’r Gemau. Bydd treth ar bris pecynnau lletygarwch moethus yn caniatau i 100 000 o docynnau gael eu rhoi i ysgolion yn Llundain ac ar draws y DU drwy rwydwaith Bydd Barod a Gemau’r Ysgolion.

Dewch i ganfod mwy am Ticketshare.