Cafodd myfyrwyr o Sidmouth College eu dewis fel enillwyr 'A oes gennych chi yr hyn sydd ei angen?' ac maent wedi ennill taith i'r amgueddfa Olympaidd yn y Swistir!
Myfyrwyr o Sidmouth College yn ymweld â'r amgueddfa Olympaidd yn Lousanne
1 Maw 2011
Mae gan Sidmouth College yr hyn sydd ei angen!
Ymwelodd y pum ysgol sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol â swyddfeydd Llundain 2012 ar gyfer ffeinal ‘A oes gennych chi yr hyn sydd ei angen?’ ar 15 Hydref. Yn y diwedd cyhoeddwyd mai’r enillydd oedd Sidmouth College yn Nyfnaint, a hynny am eu hymdriniaeth broffesiynnol a’u defnydd o’r Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd. Enillodd y myfyrwyr daith i’r amgueddfa Olympaidd yn y Swisdir, dewch i weld sut hwyl a gafwyd!
Cafodd y myfyrwyr fwynhau amrywiaeth o arddangosfeydd yn yr amgueddfa Olympaidd a dysgu llawer am hanes y Gemau Olympaidd, Gemau Olympaidd y Gaeaf ac athletwyr enwog. Roedd y myfyrwyr yn ystyried bod yr holl arddangosfeydd yn eithriadol o ddiddorol gyda fideos ac arddangosiadau rhyngweithiol. Yna aeth y grŵp i ymweld â Llyn Genefa am ginio picnic ac yna teithio ar gwch am drip i Evian. Ar y diwrnod olaf, aeth y myfyrwyr ar daith o gwmpas Genefa gan ymweld â‘r Cenhedloedd Unedig, Sefydliad Meteorolegaidd y Byd, Parc des Bastions a Le Jet d’eau cyn gadael i hedfan yn ôl i Sidmo.
Roedd y myfyrwyr wrth eu bodd gyda’r holl brofiad ac wedi eu hysbrydoli i wneud mwy o weithgareddau wedi eu hysbrydoli gan y Gemau Olympaidd yn y coleg yn dilyn eu hymweliad â‘r amgueddfa Olympaidd.
Mae ‘A oes gennych chi yr hyn sydd ei angen?’ yn rhan o strand Menter Bydd Barod+ ac mae’n amcanu at ddatblygu sgiliau menter rhai 11-14 oed drwy ofyn i fyfyrwyr roi cyflwyniad i geisio sefydlu’r ysgol yn wersyll ymarfer cyn-Gemau cymeradwyedig. Annogir yr ysgolion sy’n cymryd rhan i ymuno â rhwydwaith Bydd Barod er mwyn derbyn mwy o fuddion a chydnabyddiaeth gan Lundain 2012.












