• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Paralympaidd

Newyddion

Lansio Gwyddonwyr Chwaraeon!
22 Maw 2011

Heddiw mae GSK wedi lansio rhaglen addysg newydd ‘Gwyddonwyr Chwaraeon’ a ddyluniwyd i ysbrydoli pobl ifanc i feddwl am amrywiaeth o yrfaoedd gwyddonol.

Bydd ‘Gwyddonwyr Chwaraeon’ yn dangos sut y defnyddir gwyddoniaeth yn ystod Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012 – o brofion cyffuriau gwrth dopio i ddeall sut y gall sganio tracio llygaid wella sut y mae timau pêl-droed yn perfformio mewn ciciau o’r smotyn.

Mae’r rhaglen yn cynnwys cyfres o ddigwyddiadau am ddim gaiff eu cynnal rhwng nawr a’r Gemau Olympaidd a Pharalympaidd yn 2012 Mae’r digwyddiadau hyn yn cynnig cyfle i blant ysgol lleol brofi diwrnod mewn prifysgol, a thrwy gyfres o ddarlithoedd a gweithdai rhyngweithiol am chwaraeon yn amcanu at annog myfyrywr 11-14 oed i fynd ymhellach gyda’u hastudiaethau gwyddoniaeth ac ystyried gyrfa mewn gwyddoniaeth.

Bydd digwyddiadau pellach yn cael eu cynnal mewn prifysgolion ar draws y DU yn cynnwys Loughborough, Liverpool John Moores, Exeter a Bedfordshire ac yn cael eu cynnal gan staff y cyfadrannau, llysgenhadon myfyrwyr a gwyddonwyr GSK.

Dywedodd Cyfarwyddwr Cydgysylltu Academaidd GSK, Malcolm Skingle, ‘Mae’n amlwg fod gan bobl ifanc yn y DU frwdfrydedd tuag at wyddoniaeth ymarferol. Mae ‘Gwyddonwyr Chwaraeon’ yn dangos sut y gall busnes ac academia weithio gyda’i gilydd i fanteisio ar y brwdfrydedd cychwynol hwnnw ac annog mwy o bobl ifanc i astudio gwyddoniaeth yn y brifysgol.’

Dywedodd Seb Coe, Cadeirydd Pwyllgor Trefnu Llundain y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd, ‘Bydd gwyddoniaeth yn rhan allweddol o Gemau Llundain 2012, o’r rhaglenni hyfforddi a maeth sy’n cadw’r athletwyr ar binacl eu gallu hyd at y profion gwrth ddopio fydd yn helpu i wneud y Gemau mor lân â phosibl. Mae rhaglen ‘Gwyddonwyr Chwaraeon’ GlaxoSmithKline yn ffordd wych i bobl ifanc ar draws y DU ddysgu am yr wyddoniaeth sydd y tu ôl i lenni’r Gemau ac i agor eu llygaid i’r amrywiaeth enfawr o yrfaoedd gwyddonol ar y trac ac yn y labordy.’

Bydd gwefan newydd yn rhoi cyfarwyddiadau ac adnoddau i athrawon a myfyrwyr ar draws y DU er mwyn ail-greu’r arbrofion yn eu dosbarthiadau eu hunain er mwyn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr arbenigol.
Dewch i ddarganfod mwy

Annogir yr ysgolion sy’n cymryd rhan i ymuno â rhwydwaith Bydd Barod er mwyn derbyn mwy o fuddion a chydnabyddiaeth gan Lundain 2012.
Ymunwch â rhwydwaith Bydd Barod heddiw!