• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Paralympaidd

Newyddion

Gwobrau Plant Egnïol Sainsbury's
7 Maw 2011

Yn y Gynhadledd Coleg Chwaraeon Ysgol Ymddiriedolaeth Chwaraeon Ieuenctid ddiweddaraf, gwobrwywyd Chadsgrove School and Specialist Sports College â 100,000 o dalebau Plant Egnïol i’w defnyddio i brynu offer a phrofiadau am yr holl waith da a wnaethant dros y flwyddyn sydd wedi bod.

Dewiswyd Chadsgrove, sy’n aelod o rwydwaith Bydd Barod, oherwydd datblygiad eu cydymdriniaeth â chynnal diddordeb rhieni yn yr ysgol. Dan arweiniad y Cyfarwyddwr Arbenigedd, cynhaliwyd archwiliad ac yna cynhaliwyd digwyddiad ‘cinio a thrafod’ roddodd gyfle i rieni pobl ifanc gydag anabledd i rannu eu barn – ac i’r ysgol a’r rhieni ddrafftio ‘rhestr ddelfrydol’ o weithgreddau y byddai’r rhieni’n eu hoffi ac y gallai’r ysgol eu darparu.

Un arall o nifer o ddatblygiadau eraill yw’r gweithdai teuluoedd gaiff eu cynnal gan yr ysgol. Mae’r rhain yn digwydd bob tymor ac yn rhoi cyfle i fyfyrwyr a rhieni i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau megis chwarae y tu allan.

Llongyfarchiadau Chadsgrove!

Dewch i ddarganfod mwy am Blant Egnïol Sainsbury’s.

Os nad ydych eisoes yn aelod, yna beth am ymuno â rhwydwaith Bydd Barod heddiw! Gall unrhyw ysgol neu goleg yn y DU ddod yn aelod o rwydwaith Bydd Barod a derbyn gwobrau a chydnabyddiaeth gan Lundain 2012.