Ymwelodd y Chef Seren Michelin o Swydd Efrog, Simon Gueller, ag ysgol yng Ngorllewin Swydd Efrog i helpu ieuenctid i ddylunio pryd bwyd ar gyfer athletwr Llundain 2012.
Chef Michelin yn helpu ysgol i anelu am fri Olympaidd.
1 Maw 2011
Cystadleuaeth ‘Bydd Barod i ymarfer blasu’ yw cystadleuaeth newydd gyffrous Bydd Barod sy’n cynnig cyfle unigryw a chyffrous i blant a phobl ifanc goginio’u ffordd i Gemau Llundain 2012.
Mae myfyrwyr yn Ilkley Grammar School wedi lansio’r gystadleuaeth yn yr ysgol gyda help chef seren michelin! Gofynnwyd i’r myfyrwyr greu dau rysait fyddai’n helpu athletwr Olympaidd a Pharalympaidd i aros yn anterth ei ffitrwydd; un wedi ei ysbrydoli gan y DU a diwylliant y DU ac un gyda blas rhyngwladol. Y wobr fawr yw cael gweld y pryd bwyd ar y fwydlen yn ystod Gemau Llundain 2012.
Yn ystod y sesiwn rhoddod Simon, chef Seren Michelin yn The Box Tree Ilkley, gyngor i ddisgyblion o flwyddyn 10 ar greu’r pryd perffaith trwy roi cyngor ar sut i ddefnyddio’r cynhwysion mwyaf ffresh a phwysleisio pwysigrwydd defnyddio cyflenwyr lleol.
Dywedodd Simon Gueller “Fel rhywun sy’n mwynhau chwaraeon ac fel chef roeddwn wrth fy modd yn cael dod draw i roi cyngor i’r plant ar greu’r pryd perffaith ar gyfer athletwyr elît fydd yn cystadlu yn y Gemau. Bydd Llundain 2012 yn lle gwych ar gyfer pryd wedi ei ysbrydoli gan Swydd Efrog, ac rwy’n gobeithio bydd y plant yn cael llawer o syniadau ac y byddwn yn gweld nifer o gynigion o Swydd Efrog”
Dywedodd Helen Druett a Kay Emsley, Cyd-Benaethiaid Technoleg Bwyd yn Ilkley Grammar School sy’n rhan o Bydd Barod “Roedd hi’n wych bod Simon wedi gallu rhoi peth o’i amser i helpu’r plant heddiw. Mae’r gydtadleuaeth yn ffordd arall wych i ni fod yn rhan o Lundain 2012. Gallwn ddefnyddio’r gystadleuaeth ar gyfer dysgu ac addysgu am ffyrdd o fyw’n iach, mae’r myfyrwyr hefyd yn cael gwybodaeth arbenigol ac rwy’n gwybod eu bod yn edrych ymlaen at gyflwyno’u cynigion.”
Dywedodd Gary Verity hefyd “Rydym wedi gweld nifer o ysgolion o Swydd Efrog yn ymweld â‘r Parc Olympaidd ac yn ennill ymweliadau gan fasgotiaid Llundain 2012 fel rhan o rwydwaith Bydd Barod, ond gan fod Swydd Efrog mor enwog am ei bwyd a’i diod byddai’n wych gweld pryd o Swydd Efrog ar y fwydlen yn ystod y Gemau yn Llundain.”
Bydd yr ysgol yn defnyddio’r gystadleuaeth hon i gefnogi eu cais i rwydwaith Bydd Barod.













