Pob mis, caiff ysgol wahanol ei dewis am fyw yn ôl y Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd.
Ysgol y mis rhwydwaith Bydd Barod Mehefin 2011 yw.....
28 Meh 2011
Ac ysgol y mis rhwydwaith Bydd Barod yw… Ysgol Ormskirk yn Swydd Gaerhirfryn, Gogledd-orllewin Lloegr.
Dewiswyd Ysgol Ormskirk fel ysgol y mis rhwydwaith Bydd Barod oherwydd eu postiau blog rhagorol yn amlinellu eu hymrwymiad i’r Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd.
Yma yn Ysgol Ormskirk buom yn hyrwyddo’r Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd, nid yn unig yn ein hysgol ni ond hefyd mewn ysgolion cynradd lleol. Ymwelodd y Cyngor Chwaraeon a’r Pwyllgor Olympaidd ag ysgolion cynradd lleol i gynnal cynulliadau ar y Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd a hefyd fe wahoddwyd disgyblion cynradd i Gynhadledd Olympaidd a gynhelir gan arweinyddion Ysgol Ormskirk. Golyga ein Diwrnod Her Olympaidd a gynhelir yn ddiweddarach y tymor hwn y bydd yr holl ysgol yn cymryd rhan mewn dros 30 o weithgareddau chwarae a diwylliant Olympaidd a Pharalympaidd fel cleddyfa, pêl-fasged cadair olwyn, jwdo, BMX, ffotograffiaeth a cherflunio. Mae pob adran yn Ysgol Ormskirk wedi llunio cynllun gweithredu gyda’r amcan o ddefnyddio’r Gemau Olympaidd a Pharalympaidd i ysbrydoli disgyblion o fewn amserlen cwricwlwm.
Mae’r ysgol yn falch iawn o gael ei dewis yn ysgol y mis rhwydwaith Bydd Barod ac edrycha ymlaen at dderbyn ymweliad athletwr ym mis Medi!
Dewiswyd yr ysgol ar sail blog post neilltuol oedd yn disgrifio’r gweithgareddau yr oedd y myfyrwyr wedi cymryd rhan ynddynt. Bydd yr ysgol yn derbyn llythyr i’w llongyfarch oddi wrth Seb Coe, Cadeirydd Pwyllgor Trefnu Llundain y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd, ac ymweliad gan athletwr fel gwobr am eu hymdrechion.
Os hoffech gael y cyfle o gael eich dewis fel ‘ysgol y mis Rhwydwaith Bydd Barod’ ond nad ydych eto yn aelod o Rwydwaith Bydd Barod, yna gwnewch gais heddiw a dechrau blogio!













