Llongyfarchiadau i Calum Japes, myfyriwr a enillodd yr ymweliad ar ran ei ysgol.
Ysgol gynradd Osbaldwick yng Nghaerefrog yn derbyn ymweliad sypreis ar eu diwrnod chwaraeon!
20 Meh 2011
Cafodd disgybl ifanc o ysgol gynradd Osbaldwick sydd yn “ysbrydoliaeth” i’w athro a’i ffrindiau dosbarth sioc a hanner pan ddaeth wyneb yn wyneb â Mandeville, un o fasgotiaid llundain 2012.
Fel rhan o gystadleuaeth Bydd Barod i Gynnau’r Golau, amlygwyd Calum gan ei athro fel rhywun sy’n byw yn ôl y Gwerth Paralympaidd o benderfyniad. Enillodd yr enwebiad hwn ymweliad sypreis gan Mandeville, masgot Paralympaidd Llundain 2012.
Disgrifiwyd Calum gan athro yn yr ysgol fel rhywun sy’n angerddol am bob chwaraeon. Ers Gemau Olympaidd 2008, mae Calum wedi cael yr awch i gystadlu yn y Gemau Paralympaidd ac mae o wedi bod yn chwilio’n ddyfal am gyfleon i gystadlu mewn amrywiaeth o chwaraeon.
Mae Calum wedi cynrychioli Caerefrog mewn Boccia yng Ngemau Ieuenctid Gogledd Swydd Efrog, mae’n chwarae pêl-droed anabl a phêl-fasged cadair olwyn gyda chlwb pêl-fasged cadair olwyn York Vikings sydd newydd gael ei sefydlu.
Mae Calum yn byw yn ôl nifer o’r Gwerthoedd Paralympaidd ac mae o wirioneddol wedi haeddu ei gyfle i ddisgleirio!













