Syr Chris Hoy a Jonathan Edwards yn lansio mewn steil Wythnos Genedlaethol Chwaraeon Ysgol Lloyds TSB yng Ngholeg Cymunedol Southfields.
Wythnos Genedlaethol Chwaraeon Ysgol Lloyds TSB
27 Meh 2011
Heddiw, cyrhaeddodd Gemau Olympaidd Llundain 2012 yn gynnar yng Ngholeg Cymunedol Southfields pan fu i blant ysgol fwynhau bore bythgofiadwy i ddathlu dechrau Wythnos Chwaraeon Ysgol Cenedlaethol Lloyds TSB am eleni – y digwyddiad chwaraeon ysgol mwyaf ym Mhrydain.
Ymunodd yr enillwyr medalau aur Olympaidd, Syr Chris Hoy a Jonathan Edwards, â dros 150 o ddisgyblion o bum ysgol yn Llundain i gystadlu mewn campau fel tennis bwrdd, badminton, rhwyfo, pêl-gôl, boccia, trampolinio a phêl-foli eistedd. Rhannwyd y disgyblion yn saith tîm gwahanol, pob un yn cynrychioli un o’r gwerthoedd Olympaidd neu Baralympaidd – parch, rhagoriaeth, cyfeillgarwch a dewrder, penderfyniad, ysbrydoliaeth a chydraddoldeb.
Meddai Llysgennad Lloyds TSB, Syr Chris: “Mae chwaraeon ysgol yn rhywbeth rwy’n frwd amdanynt ac roedd yn ardderchog gweld ysgol mor ragorol yng Ngholeg Cymunedol Southfields yn cymryd rhan. “Mae’r ffaith bod pawb yn gallu profi rhywbeth newydd yn ffantastig a’r gobaith yw y bydd y plant yn parhau â‘u hymdrech.”
Cofrestrodd dros bedair miliwn o ieuenctid o ysgolion ledled Prydain i gymryd rhan yn Wythnos Genedlaethol Chwaraeon Ysgol sy’n un o’r rhaglenni sy’n ffurfio rhan o raglen Bydd Barod plws Llundain 2012 Gyda ychydig dros flwyddyn tan Llundain 2012, mae Wythnos Genedlaethol Chwaraeon Ysgol Lloyds TSB yn defnyddio’r Gemau Olympaidd a Pharalympaidd 2012 i ysbrydoli disgyblion i ymroi i ragor o chwaraeon a gweithgaredd corfforol, tra hefyd yn eu hannog i anelu’n bersonol am y gorau.
Nid ysgolion Llundain yn unig fanteisiodd ar y cyfle yn ystod diwrnod cyntaf Wythnos Genedlaethol Chwaraeon Ysgol. Cymerodd plant ysgol yn Stoke ran yn eu seremoni agoriadol eu hunain, gyda phob ysgol yn mabwysiadu gwlad Olympaidd, cyn cymryd rhan mewn ‘her cyflawni gorau personol’, gan gael tro ar bêl-fasged, athletau a phêl-foli.
Defnyddia Wythnos Genedlaethol Chwaraeon Ysgol Lloyds TSB rym Llundain 2012 i ysbrydoli plant i roi cynnig ar chwaraeon Olympaidd a Pharalympaidd. Gall eich ysgol leol gario’r Fflam Olympaidd yn Nhaith Gyfnewid Fflam Olympaidd Llundain 2012 neu ennill tocynnau ar gyfer Llundain 2012.
Anogir ysgolion a cholegau sy’n cymryd rhan yn Wythnos Genedlaethol Chwaraeon Ysgol Lloyds i gyflwyno cais i ymuno â rhwydwaith Bydd Barod.













