330,000 o blant ysgol yn barod i gyrraedd eu gorau glas!
Wythnos Genedlaethol Chwaraeon Ysgol Bank of Scotland wedi cychwyn!
3 Meh 2011
Wythnos Genedlaethol Chwaraeon Ysgol Bank of Scotland 2011 – digwyddiad chwaraeon ysgol mwyaf yr Alban – yn cychwyn heddiw!
Mae’r wythnos yn cychwyn yn Stadiwm Scotstoun yn Glasgow ble bydd dros 700 o ddisgyblion yn cymryd rhan mewn cyfres o ddigwyddiadau chwaraeon Olympaidd a Pharalympaidd gan roi bywyd i thema’r digwyddiad eleni – cyrraedd eich gorau glas – ac uchafbwynt y dydd fydd ymgais i sefydlu Record Byd Guinness am y nifer mwyaf o bobl yn rhedeg 100m mewn ras gyfnewid un awr! Byddant yn cael eu hannog gan Lysgenhadon Bank of Scotland ar gyfer Llundain 2012, Syr Chris Hoy, Katherine Grainger a Jason Gardener.
Hon yw ail flwyddyn Wythnos Genedlaethol Chwaraeon Ysgol Bank of Scotland gyda 1,400 o ysgolion, dwywaith gymaint â 2010, a dros 330,000 o blant ysgol yn cymryd rhan ym mhob rhanbarth yn Yr Alban – pob un yn anelu at gyrraedd eu gorau glas yn ystod yr wythnos, p’un a bod hynny fel unigolyn, yn eu dosbarth, yn eu hysgol neu yn eu clybiau.
Fel Partner Cyflwyno Cenedlaethol Taith Gyfnewid Fflam Olympaidd Llundain 2012, mae gan ddisgyblion ac athrawon o ysgol uwchradd sydd wedi cofrestru ac yn cymryd rhan yn Wythnos Genedlaethol Chwaraeon Ysgol Bank of Scotland, gyfle i gario’r Fflam Olympaidd drwy eu cymuned yn ystod Taith Gyfnewid Fflam Olympaidd Llundain 2012 trwy gynllun ‘addunedu’ch cefnogaeth’. Bydd gan ysgolion cynradd gyfle i ennill tocynnau i Gemau Olympaidd Llundain 2012.
Dewch i ganfod mwy am sut i addunedu’ch cefnogaeth i’ch ysgol leol.













