• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Paralympaidd

Newyddion

Trydydd diwrnod Wythnos Genedlaethol Chwaraeon Ysgol Lloyds TSB
29 Meh 2011

Cafodd dros 700 o blant ysgol Sheffield gyfle ar ystod o gampau Olympaidd a Pharalympaidd yn Sefydliad Chwaraeon Lloegr.

Mae dros bedair miliwn o blant o ysgolion ledled Prydain am gymryd rhan yn yr Wythnos Genedlaethol Chwaraeon Ysgol, menter a gynhelir mewn partneriaeth â‘r Ymddiriedolaeth Chwaraeon Ieuenctid.

Cymerodd deuddeg ysgol o’r ddinas ran yn y diwrnod llawn gweithgaredd yn SChLl, pryd yr anogwyd y plant nid yn unig gan Ade Adepitan, ond hefyd Mandeville, mascot Paralympaidd Llundain 2012. “Roedd yn ffantastig i weld y plant yn mwynhau eu hunain ac yn rhoi cynnig ar rywbeth newydd,” meddai Adepitan.

Ychydig i’r gogledd ym Mhrifysgol Met Leeds, cymerodd dros 100 o ieuenctid ran mewn chwaraeon yn cynnwys athletau a chodi hwyl fel rhan o Gemau Ieuenctid Gorllewin Swydd Efrog. Cynrychiolwyd ardlaoedd Kirklees, Bradford, Calderdale a Wakefield, gyda phlant ysgol uwchradd yn rhoi cychwyn mewn steil i bethau gyda seremoni agoriadol.

Yn y cyfamser, yn Lincoln, roedd cymaint a 300 o blant ysgol yn lansio’u fersiwn o’r ‘Gemau Bydd Barod’ yn Academi Castell Lincoln. Crynhodd y digwyddiad dathlu, gynhaliwyd i edrych ymlaen am y Gemau Olympaidd, y Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd gyda phlant o 21 o wahanol ysgolion yn yr ardal yn mwynhau athletau, criced a phêl-droed.

Mewn man arall, yn Sunderland, rhoddwyd prawf ar ffitrwydd y myfyrwyr yng Nghanolfan Chwaraeon Silksworth, gyda 271 o blant o 20 ysgol yn cymryd rhan mewn cystadleuthau triathlon unigol a thîm, yn seiclo a rhedeg yn heulwen yr haf. Ac yn Gravesend, ymunodd y plant ag enillydd medal arian Olympaidd, y taflwr gwaywffon Steve Backley, mewn diwrnod o weithgareddau gyda thema Olympaidd, “Dwy Genhedlaeth, Un Weledigaeth”. Yn y digwyddiad, gynhaliwyd yng Ngholeg Gogledd-orllewin Caint, aelod o rwydwaith Bydd Barod, cymerodd dros 150 o blant ran mewn ystod o chwaraeon yn cynnwys gwaywffon a phêl-fasged cyn rhannu’n dimau ar gyfer cwis Olympaidd.

Defnyddia Wythnos Genedlaethol Chwaraeon Ysgol Lloyds TSB rym Llundain 2012 i ysbrydoli plant i roi cynnig ar chwaraeon Olympaidd a Pharalympaidd. Gall eich ysgol leol gario’r Fflam Olympaidd yn Nhaith Gyfnewid Fflam Olympaidd Llundain 2012 neu ennill tocynnau ar gyfer Llundain 2012.

Dewch i ddarganfod mwy

Anogir ysgolion a cholegau sy’n cymryd rhan yn Wythnos Genedlaethol Chwaraeon Ysgol Lloyds i gyflwyno cais i ymuno â rhwydwaith Bydd Barod.

Ymunwch â rhwydwaith Bydd Barod heddiw!