Denise Lewis, enillydd medal aur Olympaidd, yr atyniad pennaf tra dathlai Birmingham Wythnos Chwaraeon Ysgol Cenedlaethol Lloyds TSB mewn steil.
Pedwerydd diwrnod Wythnos Chwaraeon Ysgol Cenedlaethol Lloyds TSB
30 Meh 2011
Sgeintiodd Denise Lewis lwch hudol buddugol ei medal aur Olympaidd ar bedwerydd diwrnod Wythnos Chwaraeon Ysgol Cenedlaethol Lloyds TSB yn Birmingham heddiw.
Bu Denise yn dyst i dros 700 o blant ysgol o bob cwr o’r ddinas yn cael cyfle ar ystod o gampau Olympaidd a Pharalympaidd.
Hawliodd Lewis ei medal aur heptathlon yn Sydney un mlynedd ar ddeg yn ôl, ond nid ei medal oedd yr unoig beth disglair i’w weld heddiw gyda Fflam Olympaidd Llundain 2012 ar y safle hefyd.
Mae’r digwyddiad yn Birmingham yn un o lu o weithgareddau wythnos brysur a wêl, yn dilyn y diwrnod olaf yfory, bedair miliwn o ieuenctid yn cymryd rhan ledled Prydain.
Dywedodd Denise Lewis, “Dechreua chwaraeon pob plentyn yn yr ysgol, mae’n gwbl hanfodol ac roedd yn werth chweil gweld yr holl blant yn rhoi cynnig ar gampau newydd.”
“Roedd yn gyfle gwych i’r ieuenctid gael bod ynglŷn â chwaraeon Olympaidd a Pharalympaidd ac i ganolbwyntio arnynt eu hunain a cheisio cael gorau personol. Mae Llundain 2012 rownd y gornel, ac fe fyddwn, yn wir, yn canolbwyntio ar ein athletwyr elît y flwyddyn nesaf, ond mae Wythnos Chwaraeon Ysgol Cenedlaethol yn ddigwyddiad ffantastig a’r un mor bwysig yn canolbwyntio ar yr ieuenctid a’u cael i gymryd rhan mewn chwaraeon.”
Bu arweinyddion ifainc o ysgolion y ddinas yn helpu’r plant pan yn eu cyflwyno i gampau newydd ac fe fwynhaodd Aniqah Ahsan, 17, y profiad.
“Bu’n dda eithriadol,” meddai’r disgybl o Goleg Chweched Dosbarth Joseph Chamberlain. “Digwyddodd llawer o bethau a chafwyd hwyl go iawn wrth weld y plant yn rhoi cynnig ar yr holl weithgareddau.”
Ac meddai Adnaan Salem, disgybl deg oed yn Ysgol Gatholig y Merthyron Seisnig: “Fe’i mwynheais yn fawr iawn. Cynigiais ar reidio beic a chleddyfa ac roedd yn hwyl garw. Reidio beic a fwynheais orau.”
Defnyddia Wythnos Genedlaethol Chwaraeon Ysgol Lloyds TSB rym Llundain 2012 i ysbrydoli plant i roi cynnig ar chwaraeon Olympaidd a Pharalympaidd. Gall eich ysgol leol gario’r Fflam Olympaidd yn Nhaith Gyfnewid Fflam Olympaidd Llundain 2012 neu ennill tocynnau ar gyfer Llundain 2012.
Anogir ysgolion a cholegau sy’n cymryd rhan yn Wythnos Chwaraeon Ysgol Cenedlaethol Lloyds i gyflwyno cais i ymuno â rhwydwaith Bydd Barod.













