• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Paralympaidd

Newyddion

Dwy ysgol yn ymweld â'r Parc Olympaidd!
14 Meh 2011

p(cyflwyniad). Mae myfyrwyr eco-gyfeillgar wedi cael eu gwobrwyo am eu llwyddiannau cynaliadwy!

Dewiswyd yr ysgolion o ganlyniad i’w hymrwymiad i gynaliadwyedd. Mae’r ysgolion wedi creu eco-gynghorau gweithgar ac maent yn hyrwyddo ailgylchu, diffodd offer trydanol yn gyfangwbl a thyfu llysiau yn rhandiroedd yr ysgol. Mae Pluckley School yn datblygu llyn ac ardal natur ac mae’r ysgol hefyd yn rhannu syniadau gwyrdd gyda’u hysgol gyswllt ym Malawi.

Mae EDF Energy wedi rhoi pum set o docynnau i Pluckley Primary School yng Nghaint a 5 set i Birdham Primary School yng Ngorllewin Sussex fel gwobr am eu cais llwyddiannus i rwydwaith Bydd Barod trwy eu gwaith ar Y Pod, rhaglen EDF Energy ar gyfer ysgolion gwyrddach.

Y Pod yn rhaglen addysg ar-lein sy’n helpu plant i ddysgu am faterion amgylcheddol ac yn cynnig adnoddau i helpu athrawon a myfyrwyr arbed ynni a lleihau ôl traed carbon. Y mae hefyd yn elfen allweddol o raglen addysg swyddogol Llundain 2012 – ‘Bydd Barod’. Annogir ysgolion i ddefnyddio’u cyfranogiad yn Y Pod i gefnogi eu cais i ymuno â rhwydwaith Bydd Barod er mwyn derbyn rhagor o wobrau a chydnabyddiaeth.

Aeth y myfyrwyr ar eu taith Lundain ar 8 Mehefin 2011. Buont yn ymweld â‘r Felodrom, pentref yr athletwyr, y ganolfan ddarlledu ryngwladol a’r Stadiwm Olympaidd, gyda thywysydd yn rhannu ffeithiau doniol a chynnal gweithgareddau i gymryd rhan yndddynt drwy gydol yr ymweliad.

Dywedodd un o’r myfyrwyr o Pluckley Primary School “Rwy’n credu bod y Parc Olympaidd yn anhygoel ac rwy’n credu y bydd hyd yn oed yn well pan fydd wedi ei gwblhau. Mwynheais fynd i Lundain am y dydd, roedd yn ddiwrnod i’w gofio.”

Dywedodd Kerry Sheldrick, sy’n dysgu yn Pluckley Primary: “Cawsom amser gwych. Roedd llygaid y plant wedi eu gludo i ffenestri’r bws yn y Parc Olympaidd ac roeddynt yn hoff iawn o’r ‘Pringle’, sy’n enw arall ar y Felodrom. Mae’r holl brofiad wedi gwneud i’r Gemau Olympaidd fod yn rhywbeth byw i’r plant ac ni allant ddisgwyl i gael gwylio y flwydddyn nesaf fel y gallant ddweud ‘Roeddwn i yno!”

“Diddorol i’r plant oedd clywed y bydd 90 y cant o ddeunyddiau’r adeiladau fydd yn cael eu dymchwel ar ôl y Gemau yn cael ei ailgylchu. Mae’r ymweliad wedi ysbrydoli’r plant i barhau â‘u gwaith disglair ar gynaliadwyedd yn yr ysgol.”

Roedd yr ymweliad wedi gwneud argraff fawr ar Peter Johnson, Pennaeth Birdham Primary School. Dywedodd: “Cawsom fwynhau diwrnod rhagorol. Fel ysgol sy’n gweithio’n galed i hyrwyddo cynaliadwyedd roeddem yn gallu gweld drosom ein hunain pam fod Llundain yn cael yr enw o fod y Gemau Olympaidd “gwyrddaf” erioed. Mae’r safle yn anhygoel o ystyried bod llawer o’r tir yn lle diffaith iawn dim ond dair blynedd yn ôl. Mae’r Parc Olympaidd cyfan yn cael ein sêl bendith llwyr, ac roedd yn gwneud i ni deimlo’n falch o fod yn Brydeinwyr.”

Mae EDF Energy yn defnyddio rhinweddau ysbrydoledig y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd i roi bywyd i faterion amgylcheddol i bobl ifanc, sy’n helpu i greu gwadddol gynaliadwy barhaus i’r Gemau. Trwy’r Pod darperir platfform i ysgolion rannu syniadau ac arddagos eu llwyddiannau ‘gwyrdd’.