Ysgol Tregib o Sir Gaerfyrddin ddaeth i'r brig yn rowndiau terfynol cenedlaethol 'Cynllunio fy Egwyl' GE gan ennill tocynnau i Gemau Olympaidd 2012!
Cyhoeddwyd enillwyr Rownd Derfynol Genedlaethol cystadleuaeth 'Cynllunio Fy Egwyl' GE.
7 Meh 2011
Llongyfarchiadau i fyfyrwyr o Ysgol Tregib!
Roedd yr 8 ysgol a enillodd y rowndiau terfynol rhanbarthol yn gynharach yn y flwyddyn yn cystadlu’n rownd derfynol genedlaethol ‘Cynllunio fy Egwyl’ GE. Roedd y gystadleuaeth oedd yn agored yn genedlaethol i rai 11-14 oed yn gofyn i fyfyrwyr weithio mewn timau i ddychmygu gweithgareddau ysbrydoledig a dyfeisgar ar gyfer egwyl canol dydd yr ysgol a allai ei droi i fod yn amser iach a hapus yn ystod y diwrnod ysgol. Roedd yn rhaid i fyfyrwyr ystyried tair elfen; bwyd, gweithgaredd a lles emosiynol fel rhan o’u cynllun ar gyfer yr egwyl. Roedd yn rhaid iddynt hefyd feddwl am sut oedd y Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd yn cael eu hadlewyrchu’n eu syniad, yn arbennig ysbrydoliaeth, cyfeillgarwch ac arweiniad. Roedd yn rhaid i’r timau greu cynllun prosiect ar gyfer eu syniad, dangos dealltwriaeth o gost, a chyfathrebu eu syniad yn llwyddiannus i eraill.
Enillodd Ysgol Tregib gyda’i syniad o system bwyntiau sy’n gwobrwyo myfyrwyr yn ôl pa mor iach yw eu dewis o ginio. Roedd eu cynllun yn ffordd syml o sicrhau y gallai pob myfyriwr gymryd rhan a chynnal eu brwdfrdedd tuag at fwyta’n iach y tu allan i’r ysgol.
Fe wnaeth y syniad hwn argraff ar y panel beirniadu, oedd yn cynnwys enillydd tair medal aur Olympaidd am y naid driphlyg Jonathan Edwards. Fel enillwyr y gystadleuaeth, bydd tîm Ysgol Tregib yn derbyn chwe thiced i Gystadleuaeth Olympaidd yn ystod Gemau Llundain 2012, a byddant hefyd yn ennill £1,000 er mwyn gwireddu eu syniad.
Bu i gannoedd o ysgolion gymryd rhan yn y gystadleuaeth ond dim ond tri-deg-un lwyddodd i gyrraedd y rowndiau rhagbrofol rhanbarthol. Cynhaliwyd y rowndiau terfynol hynny mewn wyth o leoliadau GE gwahanol yn y DU a phob tîm buddugol yn ennill lle yn y rownd derfynol genedlaethol heddiw yn ogystal â derbyn £500 tuag at gostau gwireddu eu syniad am ‘egwyl’ a thocynnau i ddigwyddiad Olympaidd neu Baralympaidd rhanbarthol.
Dywedodd Mark Elborne, Llywydd a Phrif Weithredwr GE yn y DU:
“Rydym wedi cael ein synnu’n fawr gan greadigrwydd a rhagoriaeth gyffredinol y cynigion a gyflwynwyd gan yr wyth yn y rownd derfynol genedlaethol. Dangosodd ein ymchwil cychwynol bod y rhan fwyaf o athrawon yn cydnabod bod egwyl cinio yn hynod bwysig i bobl ifanc ond hefyd dangosodd ei fod hefyd yn adeg peryglus posibl o ran bwlio ac ymddygiad gwael. Rydym wrth ein bodd yn gweld bod y Gemau Olympaidd yn ysbrydoli myfyrwyr i fod yn greadigol ac i gyflwyno syniadau gwych.
Bydd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal eto y flwydddyn nesaf a chofrestrwch nawr . Y dyddiad cau ar gyfer derbyn cynigion yw 30 Tachwedd 2011.
Mae Cynllunio Fy Egwyl yn elfen allweddol o strand Ffyrdd o Fyw’n Iach ac Egnïol Bydd Barod +. Anogir ysgolion a cholegau sy’n cymryd rhan i ddefnyddio’u cyfranogiad yn y prosiect hwn i gyflwyno cais i ymuno â rhwydwaith Bydd Barod.
Ymunwch â rhwydwaith Bydd Barod heddiw!













