• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Paralympaidd

Newyddion

Ail ddiwrnod Wythnos Genedlaethol Chwaraeon Ysgol Lloyds
28 Meh 2011

Ymunodd y cyn-seren badminton Gail Emms â Wenlock, mascot Olympaidd Llundain 2012, i gymryd rhan mewn diwrnod a fwriedid i annog disgyblion i geisio cyflawni gorau personol mewn camp Olympaidd neu Baralympaidd.

Hefyd, yn ysgol Heaton Manor, cyrhaeddodd prototeip o’r Fflam Olympaidd a lansiwyd yn ddiweddar a chafodd ieuenctid Newcastle gyfle egsgliwsif i weld yr hyn fydd yn rhan allweddol o Gemau’r flwyddyn nesaf. Wedi iddi roi cynnig ar gampau’n ymestyn o rwyfo hyd at y naid hir, buan yr enwodd Gail Emms y diwrnod yn un hynod o lwyddiannus.

Meddai Gail Emms, “Roedd yn wych cael cynnig ar yr holl gampau gwahanol, ond hefyd cael gweld y Fflam Olympaidd.” Adleisiwyd ei meddyliau gan Bennaeth AG Heaton Manor, Chris Mason, ac meddai: “Roedd cael y Fflam Olympaidd yn aros yma yn wledd a gallech weld o’r cyffro oedd ar wynebau’r ieuenctid eu bod yn dechrau deall o ddifrif pa mor bwysig yw rhoi cartref i’r Gemau.”

Mae Ysgol Heaton Manor, sy’n aelod o rwydwaith Bydd Barod, yn rhoi cartref i un o lawer o ddigwyddiadau a gynhelir yr wythnos hon pryd y gwelir pedair miliwn o ieuenctid ledled Prydain yn cymryd rhan yn Wythnos Genedlaethol Chwaraeon Ysgol Lloyds TSB – y digwyddiad chwaraeon ysgol mwyaf ym Mhrydain.

Mewn lle arall, y prif atyniad oedd y nofwraig Caitlin McClatchey, enillydd dwbwl medal aur yng Ngemau’r Gymanwlad, gyda 100 o ieuenctid o Gaerlŷr, yn tyrru i Goleg Cymunedol Crown Hills, sydd hefyd yn aelod o rwydwaith Bydd Barod. Yn ymuno â Clatchey fel rhan o gwmni llawn sêr oedd Keelan Phillips, pencampwr triciau BMX a Lucy Garner, beicwraig addawol sydd hefyd yn ran o gynllun Arwr Lleol Lloyds TSB. Roedd Dan Hewins, Rheolwr Partnership Development, a fu’n help i drefnu’r diwrnod, wrth ei fodd gyda’r llwyddiant.

Gwelwyd pwysau trwm yn King’s Lynn pan ymwelodd Sam Sexton, cyn bencampwr Prizefighter, ag Ysgol King Edward VII gyda’r myfyrwyr yn gwneud addewidion ynglŷn â chyflawni ‘gorau personol’ yn ystod Wythnos Genedlaethol Chwaraeon Ysgol Lloyds TSB. meddai Sam Sexton, “Ni chefais i erioed mo’r cyfle i wneud yr hyn mae’r plant yma’n ei wneud yr wythnos hon ac rwy’n meddwl ei fod yn wych.”

Yn y cyfamser, heddiw yn Telford, ymunodd dros 160 o blant o ddeg ysgol wahanol i gael hwyl a sbri trwy ddod ynghyd ar gyfer cyfres o ddigwyddiadau i brofi eu hystwythder, cydbwysedd a chydlyniad. Cymerasant ran yng Ngemau Ieuenctid Telford a Wrekin gyda rhedeg, neidio a thaflu yn amlwg dros ben. Rhag bod ar ôl, bu Bryste hefyd yn brysur gyda dros 250 o blant ysgol yn cymryd rhan mewn Gŵyl Chwaraeon yng Nghanolfan Chwaraeon Coombe Dingle ym Mhrifysgol Bryste. Ymunwyd â hwy gan Olympiad Athen 2004, Matt Elias, gyda’r plant yn llwyfannu seremoni agor mewn dull Olympaidd, cyn ceisio cyflawni goreuon personol mewn ystod o gampau Olympaidd a Pharalympaidd gwahanol – yn cynnwys athletau, seiclo a jwdo.

Defnyddia Wythnos Genedlaethol Chwaraeon Ysgol Lloyds TSB rym Llundain 2012 i ysbrydoli plant i roi cynnig ar chwaraeon Olympaidd a Pharalympaidd. Gall eich ysgol leol gario’r Fflam Olympaidd yn Nhaith Gyfnewid Fflam Olympaidd Llundain 2012 neu ennill tocynnau ar gyfer Llundain 2012.

Dewch i ddarganfod mwy

Anogir ysgolion a cholegau sy’n cymryd rhan yn Wythnos Genedlaethol Chwaraeon Ysgol Lloyds i gyflwyno cais i ymuno â rhwydwaith Bydd Barod.

Ymunwch â rhwydwaith Bydd Barod heddiw!