Bu myfyrwyr o'r ysgol yn cymryd rhan mewn her fenter a ysbrydolwyd gan Llundain 2012.
Mae Bedford Academy yn byw y Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd!
1 Gor 2011
Mae Bedford Academy, aelod o rwydwaith Bydd Barod, yn byw y Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd!
Heddiw, cymerodd myfyrwyr o’r ysgol ran mewn diwrnod menter a ysbrydolwyd gan Llundain 2012. Heriodd 40 myfyriwr o’r Academy ac un o’i hysgolion dalgylch eu hunain trwy ddefnyddio adnoddau “A oes gennych chi yr hyn sydd ei angen?” i osod pabell a dod yn wersyll hyfforddi cyn-Gemau cymeradwy.
Mynnai’r her eu bod yn ymgymryd â phrosesau gwneud penderfyniadau ac yn blaenoriaethu gweithgaredd, yr oll yn sgiliau gwerthfawr ar gyfer eu bywyd a’u gyrfa yn y dyfodol. Daeth arweinyddion amlwg i’r golwg yn y grwpiau a rhoddwyd cyflwyniadau terfynol i’r beirniaid.
Meddai Katie Huane, rheolwr prosiect Rhanbarthol Gemau Llundain 2012 oedd yn bresennol yn y digwyddiad, “Roedd yn rhyfeddol gweld y myfyrwyr yn delio â sefyllfaoedd real iawn. Roedden nhw’n mynd trwy’r un broses a’r un y bu’n rhaid i minnau ei rheoli trwy’r rhanbarth wrth adnabod y campau i’w cynnig a’r timau y gallent fod yn apelio atynt. Wynebodd y myfyrwyr yr un heriau’n union ag a wynebai ein lleoliadau chwaraeon go iawn ni, trwy orfod canfod beth fyddai anghenion timau i gynnal eu hyfforddiant. Dywedodd 94% o’r taflenni gwerthuso a gasglwyd oddi ar y plant ar y diwedd bod y gweithgareddau wedi codi’u hymwybyddiaeth a’u cyffro ynglŷn â Gemau Llundain 2012.”
Eglurodd Katie ymhellach, “Mae bod yn Ysgol Rhwydwaith Bydd Barod yn rhoi budd enfawr a chyfleoedd ychwanegol tu hwnt i’r rheini sydd ar gael wrth gofrestru dan y Rhaglen. Rwy’n mynd yn awr i ddweud wrth eraill amdano ac i’w herio i ymuno â Rhwydwaith Bydd Barod!”













