Dewiswyd Beth o Beauchamps High School fel un o enillwyr cystadleuaeth 'Bydd Barod i greu dy fasgot'.
Llongyfarchiadau Beth!
27 Gor 2011
Llongyfarchiadau i fyfyriwr o Beauchamps High School yn Nwyrain Lloegr a ddewiswyd fel un o enillwyr cystadleuaeth ‘Bydd Barod i greu dy fasgot’.
Mae Katie Huane, Rheolwr Prosiect Rhanbarthol Gemau Olympaidd a Pharalympaidd 2012 wedi rhoi adroddiad am y diwrnod y cafodd Beth ei llongyfarch o flaen yr ysgol gyfan.
‘Cychwynias yn gynnar y bore ‘ma i deithio i ochr arall y Dwyrain i ymuno â‘r Cynghorydd Stephen Castle mewn gwasanaeth arbennig yn Beauchamps High School. Roedd y Cynghorydd Castle yn ŵr gwadd yn y seremoni wobrwyo a bu’n sgwrsio gyda phawb ym Mlwyddyn Naw am ei daith gyda’r Gemau a’r hyn mae’n ei olygu i’r Dwyrain ac i Essex. Fodd bynnag, yn bwysicach na dim roeddem yno i gyflwyno tystysgrif i Beth. Mae Beth wedi creu dyluniad buddugol o Wenlock, masgot Olympaidd Llundain 2012 fydd yn cael ei ddefnyddio i greu bathodyn pin Masgot Llundain 2012 swyddogol. Roedd yr ysgol wedi cynhyrchu fideo wych yn dilyn taith Beth wrth iddi ennill cystadleuaeth ‘Bydd Barod i greu dy fasgot’. Roedd gweddill y gwasanaeth yn cynnwys nifer o wobrau eraill am lwyddiannau chwaraeon ac academaidd, felly roedd cyflwyno’r dystysgrif i Beth yn gweddu i’r dim â gweddill y bore! Mae Beth eisiau mentro i fyd dylunio a bydd yn sefyll TGAU mewn Celf y flwyddyn nesaf. Rwyf yn falch ein bod efallai wedi ei sbarduno i ddilyn ei breuddwyd!’













